Skip to main content

Egwyddorion Hyfforddi Proffesiynol (CMI) Lefel 5 - Cymwysterau

GCS Training
Lefel 5
CMI
Llys Jiwbilî
Chwe i naw mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cwrs Egwyddorion Hyfforddi Proffesiynol yn cynorthwyo unigolion i ddatblygu gwybodaeth o hyfforddi proffesiynol, gan eu helpu i ddeall y gofynion craidd ar gyfer arferion hyfforddi effeithiol.

Bwriedir y cymwysterau hefyd ar gyfer unigolion sydd am ddatblygu eu gwybodaeth o hyfforddi proffesiynol er mwyn deall y broses hyfforddi, heb orfod cymhwyso eu sgiliau. 

Mae’r cymhwyster ar gael fel Dyfarniad cryno neu fel Tystysgrif ehangach. 

Gwybodaeth allweddol

Bwriedir y cymwysterau ar gyfer hyfforddwyr wrth eu gwaith neu ddarpar hyfforddwyr sydd am ffurfioli neu ddatblygu eu dysgu a symud ymlaen i rôl hyfforddi. 

Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Gall yr addysgu fod o bell neu gall y tiwtor/aseswr gwrdd â’r dysgwr bob 4-6 wythnos mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r aseswr. 

Unedau

  • Egwyddorion hyfforddi proffesiynol
  • Rôl hyfforddwr proffesiynol

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddai CMI yn argymell y cymwysterau canlynol:

  • Rheoli Prosiect (CMI) Lefel 5 - Cymwysterau

Bydd dysgwyr yn cael mynediad at Management Direct, llyfrgell ar-lein gynhwysfawr am ddim gyda’r adnoddau diweddaraf sy’n rhoi sylw i arferion rheoli cyfredol, yn cefnogi astudio ac yn cynorthwyo’r rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau.