Rheoli Prosiect (CMI) Lefel 5 - Tystysgrif
Trosolwg
Bwriedir y cymhwyster Rheoli Prosiect Lefel 5 ar gyfer rheolwyr canol ac arweinwyr wrth eu gwaith sy’n atebol i uwch reolwr neu berchennog busnes.
Gwybodaeth allweddol
Bwriedir y cymhwyster ar gyfer arweinwyr sydd am reoli prosiectau yn effeithiol, ond mae hefyd yn agored i’r rhai sydd am ychwanegu at eu sgiliau rheoli cyffredinol.
Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod cynnwys yr uned yn addas i’w rolau unigol a’u blaenoriaethau sefydliadol. Gall yr addysgu ddigwydd o bell, neu gall y tiwtor/aseswr ymweld â’r dysgwr bob pedair i chwe wythnos mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r aseswr.
Unedau
- Rheoli prosiectau i gyflawni canlyniadau
- Arwain prosiect rheoli
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddai CMI yn argymell y cymwysterau canlynol:
- Rheolaeth (CMI) Lefel 5
Bydd dysgwyr yn cael mynediad at Management Direct, llyfrgell ar-lein cynhwysfawr am ddim. Mae’n cynnwys yr adnoddau diweddaraf sy’n rhoi sylw i arferion rheoli cyfredol, yn cefnogi astudio a’r rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau.