Hyfforddi a Mentora (CMI) Lefel 3 - Cymwysterau
Trosolwg
Mae’r cwrs Hyfforddi a Mentora yn cynorthwyo unigolion i ddatblygu gwybodaeth o hyfforddi proffesiynol, gan eu helpu i ddeall y gofynion craidd ar gyfer arferion hyfforddi effeithiol.
Mae’r cymhwyster ar gael fel Dyfarniad cryno, Tystysgrif ehangach neu fel Diploma cynhwysfawr.
Gwybodaeth allweddol
Rhaid bod dysgwyr yn newydd i hyfforddi a mentora sefydliadol, neu’n ystyried datblygu arferion hyfforddi a mentora.
Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Gall yr addysgu fod o bell neu gall y tiwtor/aseswr gwrdd â’r dysgwr bob 4-6 wythnos mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r aseswr.
Unedau
- Egwyddorion, sgiliau ac effaith hyfforddi a mentora
- Hyfforddi a mentora ar gyfer anghenion unigolyn a thîm
- Rheoli cysylltiadau hyfforddi a mentora
- Prosesau hyfforddi a mentora
- Cwblhau’r broses hyfforddi a mentora
- Gwerthuso proses hyfforddi a mentora
- Cyflwyno diwylliant, gwerthoedd ac ymddygiad sefydliadol
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddai CMI yn argymell y cymwysterau canlynol:
- Rheolaeth Llinell Gyntaf (CMI) Lefel 3 – Cymwysterau
Bydd dysgwyr yn cael mynediad at Management Direct, llyfrgell ar-lein gynhwysfawr am ddim gyda’r adnoddau diweddaraf sy’n rhoi sylw i arferion rheoli cyfredol, yn cefnogi astudio ac yn cynorthwyo’r rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau.