Arlwyo a Lletygarwch
Mae gan fyfyrwyr ar y cyrsiau Coginio Proffesiynol y fantais o weithio mewn amgylchedd proffesiynol wrth iddynt baratoi a gweini bwyd yn y Vanilla Pod, y bwyty hyfforddi ar Gampws Tycoch.
Mae’r cyrsiau hyn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa ym maes arlwyo a lletygarwch. Mae myfyrwyr yn cystadlu’n llwyddiannus yn rheolaidd mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
Cynigir cyrsiau byr, sy’n para dim ond pum wythnos, mewn coginio Eidalaidd, Ffrengig neu Asiaidd.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae 100% o’n myfyrwyr Lefel Mynediad wedi symud ymlaen i lefel 1.
Bydd cyflawni Lefel 2/3 yn agor cyfleoedd cyflogaeth mewn lletygarwch cyffredinol, paratoi bwyd a choginio. Er enghraifft, cafodd bron traean o’n myfyrwyr Lefel 2 waith yn y diwydiant ar ôl cwblhau eu cwrs.
Cyrsiau Arlwyo a Lletygarwch
Coginio ac Arlwyo Proffesiynol Lefel 1 - Diploma
Lefel 1 C&G
Coginio ac Arlwyo Proffesiynol Lefel 2 - Diploma
Lefel 2 VTCT
Cyflwyniad i Letygarwch ac Arlwyo Lefel Mynediad 3
Lefel Mynediad 3 AGORED
Deiliaid Trwydded Bersonol (Highfield) Lefel 2 - Dyfarniad
Lefel 2 Highfield
Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo (Highfield) Lefel 2 - Dyfarniad
Lefel 2 Highfield
Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo (Highfield) Lefel 3 - Dyfarniad
Lefel 3 Highfield
Rheoli Alergenau Bwyd mewn Arlwyo (Highfield) Lefel 3 - Dyfarniad
Lefel 3 Highfield
Rheoli Diogelwch Bwyd ym maes (Highfield) Lefel 4 - Dyfarniad
Lefel 4 Highfield