Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (NAW) 2023 yw’r 16eg dathliad blynyddol o brentisiaethau yn y DU. Mae’n dod â busnesau a phrentisiaid ynghyd i daflu goleuni ar yr effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau yn eu cael ar unigolion, busnesau a’r economi ehangach. Mae’n cyd-daro ag Wythnos Prentisiaethau Cymru (AWW) sy’n dathlu ac yn hyrwyddo prentisiaethau yng Nghymru fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd.
Eleni, mae NAW ac AWW yn rhedeg rhwng dydd Llun 6 a dydd Sul 12 Chwefror, ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amryw byd o weithgareddau i egluro a dathlu prentisiaethau:
- Ddydd Llun 6 Chwefror, bydd y Coleg yn cynnal ei seremoni Gwobrau Prentisiaeth flynyddol. Eleni, bydd y seremoni yn digwydd wyneb yn wyneb a bydd yn dathlu prentisiaid, tiwtoriaid a phartneriaid addysgu o bob maes pwnc!
- Ddydd Mercher 8 Chwefror, bydd y Coleg yn rhedeg Noson Agored Prentisiaethau i bobl o bob oedran a hoffai wybod rhagor am brentisiaethau neu sydd am gychwyn eu taith prentisiaeth.
- Yn olaf, rhwng dydd Llun 6 a dydd Gwener 10 Chwefror, bydd y Coleg yn rhedeg Sesiynau Gwybodaeth Prentisiaethau rhithwir ar Teams. Mae’r manylion i’w gweld isod!
Cofrestrwch ar gyfer ein noson agored prentisiaethau!
Sesiynau Gwybodaeth Prentisiaethau
Dydd Llun 6 Chwefror
9.30-10am: Chwaraeon (Lefel 2 a 3)
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb
11-11.30am: Cyngor ac Arweiniad (Lefel 3 a 4)
Sesiwn Holi ac Ateb
2pm: Iechyd Clinigol (Lefel 2 a 3)
Dydd Mawrth 7 Chwefror
9-11am: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant craidd ac ymarfer (Lefel 2 a 3)
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb
9-11am: Peirianneg - Fecanyddol a Weldio/Ffabrigo
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb
9-11am: Peirianneg - Electronig a Diogelwch
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb
9-11am: Cerbydau Modur
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb
10.30-11am: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt (Lefel 2 a 3)
Sesiwn Holi ac Ateb
11am-12pm: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Lefel 4 a 5)
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb
1-1.30pm: Ffasiwn a Thecstiliau
Trosolwg o'r brentisiaeth
2-2.30pm: Technegau Gwella Busnes
Dydd Mercher 8 Chwefror
9.30-11.30am: Gweithio ym maes Gwyddoniaeth
10-10.30am: Gwasanaeth Cwsmeriaid (Lefel 2 a 3)
Sesiwn Holi ac Ateb
10-11am: Tai (Lefel 3)
Trosolwg o'r brentisiaeth
10-11am: Prentisiaethau a sut gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol eich helpu
Dydd Iau 9 Chwefror
9-11am: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion (y ddwy lefel)
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb
9.30-10am: Cyfrifeg (AAT)
Sesiwn Holi ac Ateb
10-11am: Tai (Lefel 2)
Trosolwg o'r brentisiaeth
11am-12pm: Rheoli Cyfleusterau
Sesiwn Holi ac Ateb
11am: Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lefel 4)
1-1.30pm: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd (Lefel 4)
Sesiwn Holi ac Ateb
1-1.30pm: Cyfieithu Cymraeg
2-2.30pm: Technegau Gwella Busnes
Dydd Gwener 10 Chwefror
10am: Iechyd a Gofal Cymdeithasol craidd (Lefel 2)
10-11am: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
11-11.30am: Datblygiad Cymunedol (Lefel 3)
Sesiwn Holi ac Ateb
11am: Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Ymarfer (Lefel 2 a 3)
3-3.30pm: Paratoi’ch busnes ar gyfer y dyfodol gyda Phrentisiaethau Digidol
Take a look at the suite of digital apprenticeships Gower College Swansea offers, and how we can support your business digital transition. Presentation and Live Q&A.
3-3.30pm: Chwaraeon (Lefel 2 a 3)
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb
Gwelwch ein holl prentisiaethau
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y sesiynau hyn sy’n digwydd yn ystod Wythnos Prentisiaethau neu os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â ni.
E-bost: training@gcs.ac.uk
Ffôn: 01792 284400