Busnes, Cwrs Carlam Lefel 3 - Diploma
Trosolwg
Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn gyfwerth â dwy Safon Uwch ac fel arfer caiff ei astudio ar ôl cwblhau pwnc U2 llawn.
Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i ddysgwyr ymchwilio i amrywiaeth o bynciau sy’n adlewyrchu llwybrau dilyniant mewn busnes. Mae’r rhaglen ddysgu yn cynnwys y meysydd canlynol: amgylcheddau busnes, cyllid, marchnata, busnes rhyngwladol, rheolaeth ac adnoddau dynol.
Nod y cwrs BTEC Busnes yw rhoi i fyfyrwyr:
- Profiadau ymarferol o aseiniadau byd go iawn
- Cyfleoedd i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain
- Sylfaen gref o wybodaeth
- Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau meddwl rhyngbersonol ac ymarferol
- Gwybodaeth am sut i weithio i friff gyda therfynau amser penodol, gan gefnogi eu gallu i reoli amser.
Dylech astudio BTEC Busnes os:
- Mae’n well gennych ffordd fwy ymarferol o ddysgu
- Mae gennych ddiddordeb mewn rhedeg eich busnes eich hun
- Rydych yn barod i gymryd arweiniad i fod yn ddysgwyr annibynnol a gweithgar.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf bum gradd A*-C ar lefel TGAU
- Gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg
- Pwnc Safon UG, y gellir parhau ag ef yn U2.
Asesu:
- Unedau a asesir yn fewnol
- Unedau asesiad dan reolaeth wedi’u hasesu’n allanol
- Uned arholiad wedi’i hasesu’n allanol.
Meini Prawf Graddio:
- Asesiad mewnol (55%)
- Asesiad allanol (45%)
Caiff unedau eu hasesu gan ddefnyddio graddau Rhagoriaeth (D), Teilyngdod (M), Pasio (P), Bron Wedi Pasio (N) a Diddosbarth (U). Defnyddir y radd Bron Wedi Pasio ar gyfer unedau a asesir yn allanol yn unig. Mae cymwysterau’n cael eu graddio gan ddefnyddio graddfa PP i D*D*.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i gwrs Addysg Uwch mewn busnes neu gymhwyster cysylltiedig â chyfrifeg. Mae cwblhau cwrs BTEC yn llwyddiannus yn rhoi pwyntiau UCAS i ddysgwyr ac yn cael ei gydnabod gan brifysgolion ar gyfer dilyn cyrsiau gradd. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau mewn rolau ym meysydd marchnata, gweinyddu, cyllid, gwasanaethau ariannol, caffael, rheoli digwyddiadau, adnoddau dynol a meysydd cysylltiedig eraill yn y sector busnes.