Gweinyddu Busnes Lefel 2 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae’r prentisiaethau hyn wedi’u hariannu’n llawn ac maent ar gyfer dysgwyr sydd newydd sicrhau rolau gweinyddu. Gellir defnyddio’r Prentisiaethau hyn i recriwtio a hyfforddi staff newydd o fewn eich sefydliad. Mae rolau addas yn cynnwys gweinyddwyr cymorth busnes, staff swyddfa iau, goruchwylwyr swyddfa, cynorthwywyr personol, ysgrifendyddion neu dderbynyddion o amrywiaeth o sectorau.
Gwybodaeth allweddol
I fod yn gymwys i gael cyllid prentisiaeth, rhaid i chi gyflogi’r prentis am fwy na 16 awr yr wythnos a’ch bod wedi’ch lleoli yng Nghymru.
Bydd gan bob dysgwr diwtor/asesydd dynodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod yr unedau a ddewiswyd yn cyd-fynd â rolau’r unigolyn a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/asesydd yn cyfarfod â’r dysgwr bob 4/6 wythnos i asesu ei gynnydd a gosod nodau ar gyfer y cyfnod nesaf.
Bydd dysgwyr yn gorfod ymgymryd â gwaith prosiect ar gyfer yr unedau a ddewiswyd, yn ogystal â chasglu tystiolaeth o’u rolau er mwyn dangos eu bod yn gallu rhoi eu sgiliau newydd ar waith. Efallai bydd angen i ddysgwyr fynychu seminarau, gweithdai a chwblhau gwaith dysgu seiliedig ar waith, a fydd yn canolbwyntio ar elfen ‘wybodaeth’ y cymhwyster. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.
Unedau gorfodol
- Cyfathrebu mewn amgylchedd busnes
- Deall sefydliadau cyflogwyr
- Rheoli perfformiad a datblygiad personol
- Datblygu cysylltiadau gwaith â chydweithwyr
- Egwyddorion cynhyrchu dogfennau busnes a rheoli gwybodaeth
Unedau dewisol
- Cynhyrchu dogfennau busnes
- Cynhyrchu cofnodion cyfarfodydd
- Gweinyddu cofnodion adnoddau dynol
- Defnyddio e-bost
- Datblygu cyflwyniad
- Rhoi cyflwyniad
- Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd
- Cyfrannu at y gwaith o drefnu digwyddiad
Gweinyddu busnes Lefel 3 - Prentisiaeth
Gweinyddu busnes Lefel 4 - Prentisiaeth
I gwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd ag aseiniadau a phrosiectau ysgrifenedig sy’n berthnasol i’w rolau a’u hamgylchedd dysgu. Byddant yn ennill gwybodaeth, offer a thechnegau sy’n ymwneud â’u hunedau, er mwyn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol, fel y gallant greu portffolio o dystiolaeth.
Bydd y prosiect, y gwaith a’r dystiolaeth a gesglir yn cael eu hadolygu yn ystod cyfarfodydd grŵp a chyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr, at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Smart Asessor, sef meddalwedd rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n caniatáu’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr i weithio’n effeithiol i olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.
Mae’r brentisiaeth hefyd yn cynnwys cymwysterau sgiliau hanfodol mewn cyfathrebu, cymhwyso rhif a llythrennedd digidol. Mae’r rhain yn uwchsgilio dysgwyr nad ydynt wedi ennill cymwysterau TGAU (gradd A-C) oherwydd eu bod yn gydradd â chymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a TG.