Skip to main content

Busnes a Gweinyddu Lefel 2 - Tystysgrif

Amser-llawn
Lefel 2
BTEC Diploma
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cynnwys dau gymhwyster - BTEC Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes a BTEC Tystysgrif Lefel 2 mewn Busnes.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar sut mae byd busnes yn datblygu, yn gweithredu ac yn ymateb i newid. Mae’n rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ofynnol i fyfyrwyr ar gyfer byd gwaith a hanfodion ar gyfer dechrau eu busnes eu hunain.

Mae’r cymhwyster hwn yn gyfwerth ag astudio pum pwnc TGAU.

Amcanion y cwrs:

  • Deall gwasanaethau gweinyddu
  • Cymryd rhan mewn profiad gwaith gweinyddu busnes
  • Defnyddio technoleg busnes i brosesu a chyfleu gwybodaeth
  • Cynllunio, trefnu a chefnogi digwyddiadau busnes
  • Datblygu cynllun busnes sy’n ariannol ddichonadwy ar gyfer gwefan ac ymgyrch hyrwyddo
  • Adnabod strategaethau btrandio a ddefnyddir mewn busnes.

Canlyniadau’r cwrs:

  • Egluro pa mor bwysig yw tasgau cymorth gweinyddol, gan gynnwys sut i baratoi a dosbarthu dogfennau busnes a sut i reoli systemau dyddiadur a systemau ariannu
  • Ennill y rhinweddau i weithio mewn sector gweinyddu busnes
  • Adnabod a defnyddio rhaglenni meddalwedd busnes
  • Cynllunio, costio a chymryd rhan mewn digwyddiad busnes
  • Cyfrifo costau sy’n ymwneud â rhedeg eich busnes eich hun, gan ddefnyddio cyfriflenni
  • Defnyddio strategaethau marchnata digidol i gynyddu gwerth brandiau.

Gwybodaeth allweddol

Pedair radd D ar lefel TGAU.

Asesu:

  • Arholiadau ysgrifenedig
  • Aseiniadau rhaglennu.

Meini Prawf Graddio:

  • Asesiad mewnol (70%)
  • Asesiad allanol (30%)

Asesir unedau gan ddefnyddio graddfa Rhagoriaeth (D), Teilyngdod (M), a Phasio (P). Defnyddir graddfa PP i D*D* ar gyfer cymwysterau.

Cyflogaeth: Bydd y cwrs yn gwella rhagolygon y myfyrwyr o gael mynediad i Brentisiaeth Fodern neu NVQ Seiliedig ar Waith ym myd busnes.

Swyddi yn y diwydiant hwn: Swyddog gweinyddol, clerc gweinyddol, derbynnydd a swyddog gweinyddol cymorth busnes.

Aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: Bydd gradd Teilyngdod ar y cwrs hwn, a phresenoldeb da a gradd C mewn Saesneg, yn rhoi modd i fyfyrwyr symud ymlaen i’r cwrs BTEC Diploma Lefel 3 mewn Busnes gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.