Mae cyflawni gradd A* yn Safon Uwch yn gyflawniad gwych – ond mae ennill pump ohonynt yn wirioneddol anhygoel.
Ond dyna beth ddigwyddodd i fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe James Miller ar y diwrnod canlyniadau yn ôl ym mis Awst.
Astudiodd James gyrsiau Safon Uwch mewn Mathemateg, Ffiseg, Bioleg a Chemeg, yn ogystal â Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch, ar Gampws Gorseinon.
“Dewisais i fathemateg, bioleg a chemeg oherwydd yn wreiddiol roeddwn i’n bwriadu gwneud cais i astudio deintyddiaeth yn y brifysgol,” meddai James. “Roeddwn i wastad yn meddwl bod ffiseg yn bwnc rhyfeddol ac roeddwn i’n teimlo bod y Fagloriaeth yn gyfle i mi ddatblygu sgiliau ymchwil a phrosiect hanfodol.”
Ar y dechrau, roedd James yn bwriadu astudio pob un o’r pum pwnc i Safon UG ond, gan iddo fwynhau pob dosbarth a chyflawni UMS uchel yn ei arholiadau UG ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, penderfynodd barhau â’r pum pwnc i’r Safon Uwch lawn.
Fel pob myfyriwr, roedd aros am ddiwrnod y canlyniadau yn brofiad ingol i James, ac roedd yn teimlo’n bryderus iawn yn enwedig am ffiseg a bioleg, oherwydd ffiniau’r graddau uchel a’r cynlluniau marcio llym. Felly roedd yn rhyddhad mawr agor ei ganlyniadau a gweld ei fod wedi ennill A* yn y ddau bwnc.
“Cafodd pum gradd A* eu rhagfynegi, ond doeddwn i wir ddim yn disgwyl eu cael, felly roeddwn i wrth fy modd yn agor yr amlen,” meddai James. “Roeddwn i hefyd yn eithriadol o hapus i weld bod cynifer o’m ffrindiau, a oedd wedi fy nghefnogi drwy gydol fy astudiaethau, wedi ennill graddau anhygoel hefyd.”
Mae astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn cynnig manteision niferus, ac yn eu plith roedd James yn gwerthfawrogi’r cyfleusterau ardderchog, yn enwedig y llyfrgell, a’r llu o gyfleoedd i gymryd rhan mewn Olympiadau a gweithgareddau uwchgwricwlaidd fel Her Mathemateg UKMT.
“Ond, y peth gorau am astudio yn y Coleg oedd y lefel o gymorth eithriadol a gefais drwy gydol fy amser yn astudio yno, gyda’r athrawon bob amser yn rhoi o’u hamser i ateb fy nghwestiynau lawer yn drylwyr,” meddai. “Yn ogystal â chael cymorth ar gyfer fy nghyrsiau Safon Uwch, cefais gefnogaeth werthfawr ar gyfer fy nghais UCAS trwy Anrhydeddau CGA a Rhaglen Meddygon, Deintyddion a Milfeddygon.”
Mae James bellach wedi penderfynu cymryd blwyddyn i ffwrdd cyn dechrau yn y brifysgol, ac yn y cyfnod hwnnw mae wedi dychwelyd i Goleg Gŵyr Abertawe i astudio Safon Uwch Mathemateg Bellach.
Mae hefyd yn ymgymryd ag amrywiaeth o waith, gan gynnwys tiwtora, wrth iddo gynilo arian i wneud rhywfaint o deithio ar ddiwedd y flwyddyn.
O ran llwybrau gyrfa posibl, mae James yn archwilio amrywiaeth eang o feysydd, yn eu plith gofal iechyd, peirianneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Yn ystod ei flwyddyn i ffwrdd, mae’n gobeithio ennill profiad gwerthfawr a fydd yn rhoi modd iddo benderfynu ar y llwybr yr hoffai ei ddilyn, tra hefyd yn cryfhau ei gais UCAS ar gyfer y cwrs o’i ddewis yn y brifysgol.
“Mae pum gradd A* yn gyflawniad anhygoel, a dwi’n llongyfarch James ar yr ymroddiad, y chwilfrydedd a’r gwaith caled y tu ôl i’r canlyniadau rhagorol hyn,” meddai’r Pennaeth Paul Kift. “Rydyn ni’n hynod o falch ohono, fel yr ydyn ni o bob un o’n dysgwyr sy’n gweithio’n galed, yn goresgyn heriau, ac yn cymryd eu camau nesaf at wireddu eu huchelgeisiau.
“Mae’n arbennig o galonogol clywed sut wnaeth ein staff helpu James i ffynnu, gan roi cymorth ac anogaeth iddo archwilio ei ddiddordebau ac anelu’n uchel. Mae ei stori wych yn ein hatgoffa o’r hyn y gall addysg arwain ato – a dwi’n siŵr y bydd yn ysbrydoli eraill i gredu yn eu potensial eu hunain.
“Llongyfarchiadau James, gan bob un ohonom yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Rydyn ni’n falch dros ben dy fod ti’n parhau â dy daith gyda ni ym maes Mathemateg Bellach. Rydyn ni’n edrych ymlaen i weld ble bydd dy dalent a dy frwdfrydedd yn mynd â ti nesaf – byddwn ni’n dy ddilyn gyda diddordeb a balchder mawr.”