Skip to main content

Gosod a Rheoli Eiddo Preswyl (CIH) Lefel 3 - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Lefel 3
CIH
Llys Jiwbilî
Naw mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster galwedigaethol Lefel 3 ar gyfer y sector tai, wedi’i reoleiddio gan Ofqual a Chymwysterau Cymru.

Mae CIH Tystysgrif Lefel 3 mewn Gosod a Rheoli Eiddo yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i ddysgwyr o’r meysydd allweddol wrth reoli a gosod eiddo, i gefnogi mynediad i a dilyniant mewn rolau fel landlord, neu reolwr eiddo a thai.

Nod y cymhwyster yw:

  • Darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i weithio mewn rôl llinell flaen sy’n gosod ac yn rheoli eiddo preswyl
  • Darparu’r wybodaeth i gefnogi unigolion sy’n gweithio ym maes gosod a rheoli eiddo preswyl a meysydd cysylltiedig.

Gwybodaeth allweddol

Disgwylir i chi fod ag o leiaf radd C mewn TGAU Saesneg.

Hefyd:

  • Wedi cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 mewn Gosod a Rheoli Eiddo Preswyl yn llwyddiannus, neu:
  • Brofiad o ddwy flynedd ym myd diwydiant mewn rôl gosod a rheoli, neu’r cyfwerth.

Addysgir y cymhwyster trwy amrywiaeth o ddulliau, a all gynnwys:

  • Sesiynau wyneb yn wyneb ar Gampws Tycoch
  • Sesiynau o bell a gynhelir trwy Microsoft Teams.

Rhaid i ddysgwyr ddod i chwe gweithdy, sy’n amrywio rhwng tair i bedair awr yr un. Bydd dysgwyr yn cwblhau amrywiaeth o dasgau yn y dosbarth a/neu dasgau ymchwil i’w helpu i gwblhau’r aseiniadau a osodwyd ar gyfer pob uned; i ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn ogystal â’u gallu i’w rhoi ar waith.

Gellir defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu fel:

  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Cwestiynau llafar/trafodaeth broffesiynol.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys pum uned orfodol:

  • Gosod eiddo preswyl (R/651/0075)
  • Safonau eiddo ar gyfer eiddo preswyl (T/651/0076 30 40 11 3)
  • Rheoli tenantiaeth ar gyfer eiddo preswyl (Y/651/0077 30 40 12 3)
  • Terfynu tenantiaethau eiddo preswyl (A/651/0078 22 30 14 3)
  • Arferion proffesiynol ar gyfer y sector rhentu (D/651/0079).

Gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau mewn rolau ym maes Tai gyda Choleg Gŵyr Abertawe. Mae hyn yn cynnwys dilyniant i’r cwrs tystysgrif Lefel 4 neu Brentisiaeth mewn Tai, sydd yn addas i Reolwyr, Uwch Dîm, a’r rhai sydd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad yn y diwydiant.

Gallai llwybrau dilyniant eraill gynnwys gweinyddu, cyllid, gwasanaethau ariannol, gwasanaeth cwsmeriaid, adnoddau dynol, cyngor ac arweiniad a meysydd cysylltiedig eraill yn y sector busnes.