Skip to main content

Gosod a Rheoli Eiddo Preswyl (CIH) - Cymhwyster Lefel 2

GCS Training
Lefel 2
CIH
TBC
Chwe mis

Ffôn: 01792 284400    E-bost: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Dysgwch ragor am y cymhwyster CIH newydd yn ein digwyddiad.

Mae’r cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 hwn yn ymwneud â’r sector tai ac fe’i rheoleiddir gan Cymwysterau Cymru.

Prif nod y cymhwyster yw cynnig dealltwriaeth o gyfraith tenantiaeth, rheoli eiddo a gofal cwsmeriaid i ddysgwyr yn y sector rhentu preifat, gan gynnig cymorth iddynt fel y gallant symud ymlaen i rolau megis rheolwyr eiddo cynorthwyol, asiantau eiddo, gweinyddwyr tai, cynorthwywyr tai, negodwyr a landlordiaid.

Bwriad y cymhwyster:

  • Hybu a hyrwyddo arferion da mewn perthynas â llety a rentir yn breifat.
  • Helpu landlordiaid, asiantau gosod a thenantiaid i ymgymryd â’u cyfrifoldebau.
  • Darparu gwybodaeth sylfaenol i landlordiaid preswyl unigol ac asiantau gosod/rheoli er mwyn eu helpu i gyflawni eu rolau.

Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer landlordiaid unigol, unigolion sydd am weithio yn y sector tai, asiantau gosod a rheoli yn ogystal ag unigolion sy’n cynnig cymorth i denantiaid.

Gwybodaeth allweddol

Mae'r CIH yn nodi bod meddu ar rywfaint o brofiad o weithio ym maes gosod a/neu reoli eiddo preswyl neu ddiwydiant cysylltiedig yn fanteisiol, ond nid yw'n hanfodol.

Bydd gan bob dysgwr diwtor/aseswr penodedig a fydd yn gweithio gyda dysgwyr a chyflogwyr i sicrhau bod cynnwys yr uned yn gweddu i'w rolau unigol a blaenoriaethau'r sefydliad.

Cyflwynir y cwrs drwy gyfres o dri gweithdy strwythuredig a fydd yn para hanner diwrnod. Bydd y gweithdau yn rhoi gwybodaeth greiddiol i’r dysgwyr ar gyfer yr aseiniadau. Byddant hefyd yn derbyn cymorth tiwtorial parhaus.

Unedau

  • Deddfwriaethau gosod a rheoli eiddo.
  • Rheoli tenantiaethau
  • Gofal cwmeriaid ym maes gosod

Mae’n bosib y gall y cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth neu ddilyniant o fewn y sector rhentu preifat neu dai mewn rolau megis rheolwyr eiddo cynorthwyol, gwerthwyr tai, gweinyddwyr tai, cynorthwywyr tai, trafodwr gosodiadau a landlordiaid. 

  • Dyfarniad CIH Lefel 3 mewn Gosod a Rheoli Eiddo Preswyl
  • Dyfarniad neu Dystysgrif CIH Lefel 3 mewn Tai.
  • Cofrestru gyda sefydliad proffesiynol, y Sefydliad Tai Siartredig (Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd dysgwyr yn dod yn aelod-ymarferydd o’r CIH)
  • Dilyniant gyrfa o fewn y sector

Gweithdai

Bydd dysgwyr yn mynychu Gweithdy CIH bob chwech / wyth wythnos er mwyn sicrhau’r wybodaeth graidd sydd ei hangen ar gyfer yr unedau. Ar ol pob gweithdy, bydd drafft tair wythnos a dyddiad cyflwyno terfynol yn cael eu gosod.

Asesiadau

Bydd asesiadau yn amrywio ar gyfer pob uned, ond gallant gynnwys amrywiaeth o ddulliau asesu megis gweithgareddau dosbarth a gweithgareddau y tu allan i’r dosbarth. Drwy gydol eich astudiaethau, bydd y cwrs yn gwella eich sgiliau ysgrifennu academaidd, sgiliau TGCh, sgiliau cydweithio a chyflwyno personol.