Skip to main content

Hanfodion Diogelwch, Cydymffurfiaeth a Hunaniaeth Ardystiedig Microsoft SC900

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
TBC
Dau ddiwrnod

Telephone: 01792 284400 Email: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae'r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth sylfaenol ar ddiogelwch, cydymffurfiaeth, cysyniadau hunaniaeth ac atebion Microsoft sy’n ymwneud â’r cwmwl. 

Bydd dysgwyr yn cael derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad SC900, er mwyn ennill statws achrededig. 

Gwybodaeth allweddol

Bydd dysgwyr yn gyfarwydd â Microsoft Azure a Microsoft 365 a bydd ganddynt ddealltwriaeth o sut y gall diogelwch, cydymffurfiaeth a hunaniaeth Microsoft ddarparu datrysiadau a chynnig atebion cyfannol. 

Cyn dechrau’r cwrs, bydd angen i ddysgwyr feddu ar: 

  • Ddealltwriaeth gyffredinol o rwydweithio a chysyniadau cyfrifiadura cwmwl.  
  • Gwybodaeth TG gyffredinol neu brofiad cyffredinol o weithio mewn amgylchedd TG. 
  • Dealltwriaeth gyffredinol o Microsoft Azure a Microsoft 365. 

Llwybr dysgu 1: Disgrifio cysyniadau diogelwch, cydymffurfio a hunaniaeth 

  • Disgrifio cysyniadau diogelwch a chydymffurfiaeth 
  • Disgrifio cysyniadau hunaniaeth 

Llwybr dysgu 2: Disgrifio galluoedd Microsoft Entra 

  • Disgrifio swyddogaethau a mathau gwahanol o hunaniaeth Microsoft Entra ID 
  • Disgrifio galluoedd dilysu Microsoft Entra ID 
  • Disgrifio galluoedd rheoli mynediad Microsoft Entra ID 
  • Disgrifio galluoedd diogelu hunaniaeth a llywodraethu Microsoft Entra 

Llwybr dysgu 3: Disgrifio galluoedd datrysiadau diogelwch Microsoft 

  • Disgrifio gwasanaethau diogelwch seilwaith craidd Azure 
  • Disgrifio galluoedd rheoli diogelwch Azure 
  • Disgrifio galluoedd diogelwch Microsoft Sentinel 
  • Disgrifio galluoedd diogelwch Microsoft Sentinel 

Llwybr dysgu 4: Disgrifio galluoedd datrysiadau cydymffurfio Microsoft 

  • Disgrifio porth Microsoft Service Trust a galluoedd preifatrwydd 
  • Disgrifio galluoedd rheoli cydymffurfio Microsoft Purview 
  • Disgrifio diogelwch gwybodaeth, rheoli cylch bywyd data a galluoedd llywodraethu data Microsoft Purview 
  • Disgrifio galluoedd risg mewnol Microsoft Purview 
  • Disgrifio galluoedd eDiscover ac Archwilio Microsoft Purview 

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweinyddu Azure, Diogelwch a Gwasanaethau Cwmwl. 

Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft. 

Off