Hanfodion Data Ardystiedig Microsoft Azure (DP900) - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth am gysyniadau data craidd a'u cysylltu â gwasanaethau data Microsoft Azure.
Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r sgiliau canlynol:
- Esbonio cysyniadau data craidd
- Nodi data perthynol ar Azure
- Disgrifio ystyriaethau ar gyfer gweithio gyda data nad yw'n berthynol ar Azure
- Disgrifio llwyth gwaith dadansoddeg ar Azure
Bydd dysgwyr yn cael derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad DP900, er mwyn ennill statws achrededig.
Gwybodaeth allweddol
Dylai dysgwyr fod yn gyfforddus gyda chysyniadau data craidd a bod gweithio gyda data yn y cwmwl. Dylai dysgwyr hefyd fod yn gyfarwydd â chysyniadau data perthynol ac amherthynol, yn ogystal â'r gwahanol fathau o lwyth gwaith data megis trafodol a dadansoddol.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft sy’n gysylltiedig â Azure Database Administrator Associate neu Azure Data Engineer Associate.
Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.