Ardystiad Microsoft: Hanfodion Power Platform (PL900) - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr o’r pecyn Power Platform, gan gynnwys Power Apps, cysylltiadau data â Dataverse a Power Automate.
Mae’r cymhwyster yn rhoi hyfforddiant ar werth busnes a galluoedd Power Platform, gan greu Power Apps syml, cysylltu data â Gwasanaeth Data Cyffredin ar gyfer apiau, ac awtomeiddio proses llif gwaith gyda Power Automate.
Fel ymgeisydd ar gyfer yr ardystiad hwn, byddwch yn ceisio deall sut y gall technolegau Microsoft Power Platform gael eu defnyddio i:
• Wella ac awtomeiddio prosesau busnes
• Helpu i lywio canlyniadau busnes
Bydd y cymhwyster yn rhoi modd i ddysgwyr ddangos y sgiliau canlynol:
• Disgrifio gwerth busnes Microsoft Power Platform
• Nodi cydrannau sylfaenol Microsoft Power Platform
• Arddangos galluoedd Power BI
• Arddangos galluoedd Power Apps
• Arddangos galluoedd Power Automate
• Arddangos datrysiadau Microsoft Power Platform cyflenwol
Bydd dysgwyr yn cael cymorth ar ôl yr addysgu i sefyll arholiad Microsoft PL900, ac i ennill statws ardystiedig PL900.
Gwybodaeth allweddol
Bydd dealltwriaeth o gyfrifiadura cwmwl yn ddefnyddiol, ond nid yw’n angenrheidiol.
Bydd danfon yn digwydd ar-lein.
Llwybrau Dysgu Ardystiad Microsoft sy’n gysylltiedig â Power Apps a Power Automate.
Addysgir y cymhwyster gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiad Microsoft.