Newyddion y Coleg
Rhaglen gyflogadwyedd yn dathlu ail ben-blwydd
Mae rhaglen gyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe – Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol - yn dathlu ail flwyddyn hynod lwyddiannus o ddarpariaeth.
Ers iddi lansio, mae’r rhaglen wedi cefnogi dros 1,500 o unigolion sy’n ceisio cyflogaeth newydd neu well - unigolion fel Dave, a oedd yn dangyflogedig mewn rolau tymhorol ac yn cael trafferth gyda phryder ar ôl i ddigwyddiad bywyd trawmatig ei orfodi i roi’r gorau i’w yrfa flaenorol yn Llundain.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn derbyn canmoliaeth gan AoC
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei ganmol am ei arferion gorau a’i harloesed mewn tri chategori gwahanol yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC) 2019.
Mae Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau yn gyfle i ddathlu arferion mwyaf arloesol Colegau’r DU. Cyflwynir y gwobrau yn flynyddol gan AoC er mwyn cymeradwyo ardderchowgrwydd a chydnabod doniau staff ar bob lefel. Mae’r gwobrau yn amlinellu ehangder ac ansawdd addysg yn y sector Colegau.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gymeradwyo gan y gwobrau isod:
Darllen mwyUndeb Myfyrwyr newydd sbon i Goleg Gŵyr Abertawe
Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe Undeb Myfyrwyr newydd sbon a Laimis Lisauskas, llywydd amser llawn (sabothol) newydd yr Undeb Myfyrwyr, fydd yn sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg yn esmwyth.
Bydd Laimis, a oedd yn fyfyriwr peirianneg yn y Coleg cyn dechrau ei rôl newydd, yn gweithio ar draws yr holl gampysau a chynrychioli holl fyfyrwyr y Coleg. Bydd yn arwain digwyddiadau a mentrau ac yn sicrhau bod uwch reolwyr yn clywed barn myfyrwyr.
Cydweithrediad AB/AU yn trawsnewid ystafell ddosbarth
Diolch i gais llwyddiannus i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), mae ystafell ddosbarth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael ei thrawsnewid yn lle dysgu gweithredol gyda chyfleusterau fideogynadledda, byrddau rhyngweithiol a chlustffonau VR.
Darllen mwyTîm AD y Coleg yn cystadlu am wobr fawr
Mae adran Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe yn gobeithio ennill gwobr fawr arall.
Mae’r tîm wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Tîm Mewnol Gorau yng Ngwobrau CIPD Cymru, a gynhelir yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar 15 Tachwedd.
Mae'r wobr benodol hon yn cydnabod timau AD sydd wedi cydweithio’n agos i sicrhau gwerth trwy fentrau ac arferion sy’n canolbwyntio ar bobl.
Darllen mwyCynlluniau uchelgeisiol Plas Sgeti yn cael y golau gwyrdd
Bydd gweledigaeth Coleg Gŵyr Abertawe i ailddatblygu Plas Sgeti fel Ysgol Fusnes yn mynd yn ei blaen yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.
Darllen mwyPrifysgol yn cydweithio â’r Coleg i helpu myfyrwyr
Mae Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe wedi dod ynghyd i helpu myfyrwyr â chyflyrau sbectrwm awtistig wrth iddynt baratoi i bontio o’r coleg i’r brifysgol.
Maen nhw’n cydweithredu ar brosiect ymchwil am flwyddyn i ymchwilio i heriau posibl sy’n wynebu’r myfyrwyr hyn wrth newid o addysg bellach i addysg uwch.
Darllen mwyColeg yn ennill statws Aur NEBOSH
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill statws Partner Dysgu Aur NEBOSH - sêl bendith swyddogol am addysgu cyrsiau iechyd a diogelwch.
Ar hyn o bryd, trwy ei ddarpariaeth Hyfforddiant GCS a leolir yn Llys Jiwbilî, Fforestfach, mae’r Coleg yn cyflwyno pedwar cwrs NEBOSH achrededig - Tystysgrif Gyffredinol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, Tystysgrif Lefel 3 mewn Diogelwch Tân a Rheoli Risg, Tystysgrif Genedlaethol mewn Rheolaeth Amgylcheddol, a Thystysgrif Genedlaethol mewn Adeiladu ac Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NCC1 a 2).
Darllen mwyColeg yn lansio HE+ ac Academi Seren ar gyfer 2019
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu dros 400 o ddysgwyr i Gampws Gorseinon ar gyfer lansio rhaglen HE+ ac Academi Seren 2019/20.
Coleg Gŵyr Abertawe, ar wahoddiad, ac ar y cyd â Phrifysgol Caergrawnt, yw’r prif sefydliad o fewn Consortiwm HE+ Abertawe, sy’n gweithio gyda’r saith ysgol wladol chweched dosbarth yn Ninas a Sir Abertawe.
Yn ystod y lansiad eleni, roedd myfyrwyr o’r Coleg a’r ysgolion wedi gwrando ar anerchiad croeso gan Fiona Beresford, Cydlynydd HE+ a Seren Abertawe, a Dr Jonathan Padley, Cymrawd a Thiwtor Derbyn yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt.
Darllen mwy£6.6m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi rhaglen cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe
Mae buddsoddiad o £6.6m gan yr Undeb Ewropeaidd wedi’i sicrhau i ehangu ac ymestyn rhaglen gyflogadwyedd yn Abertawe tan 2021.
Fel rhan o’r rhaglen ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’, caiff pum prosiect newydd eu darparu gan Goleg Gŵyr Abertawe mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol.
Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at bobl sy’n ddi-waith, sydd wedi’u tangyflogi, neu sydd mewn swyddi cyflog isel. Bydd y rhaglen yn darparu ystod o gefnogaeth, megis hyfforddiant, mentora, lleoliadau gwaith, a chyfleoedd i ennill cymwysterau.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 47
- Tudalen nesaf ››