Newyddion y Coleg
Dyddiadau cau Nadolig 2019
Bydd y Coleg ar gau o 1pm, Dydd Gwener 20 Rhagfyr 2019 ac yn ailagor ar 8.30am, Dydd Llun 6 Ionawr 2020.
Bydd ein Canolfan Chwaraeon Tycoch ar gau o Ddydd Nadolig, Dydd Mercher 25 Rhagfyr 2019 ac yn ailagor Dydd Iau 2 Ionawr 2020.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda o bawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe!
Darllen mwyLlwyddiant myfyrwyr mewn cystadleuaeth mathemateg
Yn ddiweddar, roedd grŵp o fyfyrwyr Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe wedi cystadlu yn Her Mathemateg Uwch UKMT, cystadleuaeth dewis lluosog 90 munud ar gyfer dysgwyr o bob rhan o’r DU.
Mae’r Her yn annog rhesymu mathemategol, manylder meddwl a rhuglder wrth ddefnyddio technegau mathemategol sylfaenol i ddatrys problemau diddorol.
Enillodd y myfyrwyr nifer drawiadol o fedalau – roedd wyth wedi ennill Aur, 16 wedi ennill Arian ac roedd 11 wedi ennill Efydd.
Darllen mwyPerfformiad Nadoligaidd yn cloi blwyddyn lwyddiannus i fyfyrwyr
Mae myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio a’r Celfyddydau Cynhyrchu yn y Theatr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi gorffen blwyddyn lwyddiannus arall gyda pherfformiad Nadoligaidd o Beauty and the Beast Disney.
Dros naw diwrnod, roedd y myfyrwyr wedi perfformio 20 sioe i gynulleidfa o bron 2000 o bobl. Roedd y rhain yn cynnwys tri pherfformiad cyhoeddus (a werthodd allan yn gyfan gwbl) a dydd-berfformiadau arbennig ar gyfer wyth ysgol gynradd leol, dwy ysgol gyfun a pharti Nadolig staff.
Darllen mwyDigwyddiad Coleg ‘wedi’i gymeradwyo’n uchel’ mewn seremoni gwobrau cenedlaethol
Mae digwyddiad Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, a drefnir gan y tîm Marchnata mewnol, wedi cael ei gymeradwyo’n uchel yng Ngwobrau mawreddog Rhwydwaith Marchnata Colegau / FE First am Ragoriaeth Marchnata.
Roedd y Gwobrau Blynyddol, sy’n darparu ar gyfer dros 200 o bobl ac yn digwydd bob mis Mehefin yn Stadiwm Liberty, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Rheoli Digwyddiadau.
Darllen mwyLlwyddiant ysgubol i Goleg Gŵyr Abertawe yng nghystadlaethau Worldskills
Mae prentisiaid ifanc a myfyrwyr galwedigaethol gorau’r DU wedi cael eu henwi yn Rhif 1 y genedl mewn seremoni ddisglair yn Birmingham.
WorldSkills UK LIVE, a ddenodd fwy nag 80,000 o bobl ifanc i’r NEC, oedd cyd-destun Rownd Derfynol Genedlaethol Cystadlaethau WorldSkills UK a welodd fwy na 500 o bobl ifanc yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau gwahanol.
Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau WorldSkills UK yn rhoi i bobl ifanc y sgiliau o’r radd flaenaf sydd eu hangen i helpu busnesau’r DU i gystadlu’n well yn fyd-eang.
Darllen mwyPreswylwyr cartref gofal yn mwynhau gweithdai canu
Mae preswylwyr cartref gofal yn Abertawe wedi mwynhau cyfres o weithdai canu dwyieithog o ganlyniad i gydweithrediad rhwng Ffa-la-la a Choleg Gŵyr Abertawe.
Diolch i gymorth ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, roedd y Coleg wedi trefnu tair sesiwn yng Nghartref Gofal Hengoed Park yn Winsh-wen lle anogwyd preswylwyr a staff i neilltuo amser o’u diwrnod prysur i ganu gyda’i gilydd yn Gymraeg.
Darllen mwyWythnos Enfys y Coleg yn dathlu cynwysoldeb unigolion LGBTQ+
Mae staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi lansio eu Hwythnos Enfys gyntaf erioed gyda’r dyfarnwr rhyngwladol rygbi’r undeb o Gymru Nigel Owens, MBE.
Bwriad Wythnos Enfys CGA yw codi ymwybyddiaeth o faterion LGBTQ+ a dathlu cynwysoldeb ac amgylchedd diogel a chefnogol y Coleg.
Dechreuodd yr wythnos drwy ymrwymo i raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ac anerchiad a sesiwn holi ac ateb gan Nigel Owens, MBE. Roedd Nigel wedi siarad am ei frwydrau â’i rywioldeb a’i iechyd meddwl ei hun, gan dynnu sylw at bwysigrwydd bod yn driw i chi’ch hun.
Darllen mwyColeg Rhydychen yn ehangu menter allgymorth i Abertawe
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan mewn menter newydd sbon sy’n ceisio denu mwy o bobl ifanc o ysgolion gwladol i Brifysgol Rhydychen.
Aeth tua 80 o fyfyrwyr Safon Uwch i’r gweithdy Step Up yn ddiweddar ar Gampws Gorseinon dan arweiniad Pennaeth Allgymorth y Coleg Newydd, Rhydychen - a chyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe - Daniel Powell.
Darllen mwyDysgwyr AU y Coleg yn graddio!
Roedd dros 100 o fyfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe yn rhan o ddigwyddiad graddio arbennig yn Neuadd Brangwyn.
Roedd y myfyrwyr wedi gwisgo eu capiau a’u gynau i ddathlu eu llwyddiant mewn cyrsiau addysg uwch megis cyfrifeg, busnes, gwyddoniaeth, peirianneg, gofal plant, holisteg, tai a rheolaeth.
Darllen mwyColeg yn gwella ffocws datblygu cyflogwyr trwy benodi cyn Brif Swyddog Gweithredol Rygbi’r Dreigiau, Stuart Davies
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi penodi Stuart Davies fel ei Ymgynghorydd Datblygu Busnes newydd.
Cafodd Stuart ei fagu o fewn tafliad carreg i ystad Hill House y Coleg yn Nhycoch a threuliodd 14 o flynyddoedd yn chwarae rygbi ar y safon uchaf, gan gynrychioli Abertawe a Chymru yn rheolaidd. Ar ôl ei ddyddiau’n chwarae rygbi, casglodd Stuart ddyfnder helaeth o wybodaeth ar draws ystod eang o sectorau ac arbenigeddau busnes.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 46
- Tudalen nesaf ››