Newyddion y Coleg
12 myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe yn mynd i Rydgrawnt
Mae 12 myfyriwr Safon uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2020.
Mae’r holl fyfyrwyr hyn yn dilyn Rhaglen Rhydgrawnt ar Gampws Gorseinon, sy’n ceisio darparu’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.
Enw:
Ysgol flaenorol:
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn croesawu’r Arglwydd Faer
Roedd grŵp o fyfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol wedi cael sesiwn holi ac ateb gydag Arglwydd Faer Abertawe, Y Cynghorydd Peter Black, ddydd Mercher 5 Chwefror.
Roedd yr Arglwydd Faer wedi trafod ei rôl â’r dysgwyr brwdfrydig, gan gynnwys ei dasgau o ddydd i ddydd a’i uchafbwyntiau personol megis rhoi Rhyddid y Ddinas i Alun Wyn Jones a chroesawu Dug a Duges Caergrawnt i’r Mwmbwls y diwrnod blaenorol.
Darllen mwyColeg yn dathlu ail Wobrau Prentisiaethau
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig i brentisiaid a chyflogwyr.
Cafodd y digwyddiad, a gyflwynwyd gan Ross Harries o Scrum V Live BBC Wales, ei gynnal i anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol ‘y gorau o’r goreuon’.
Ymhlith enillwyr y gwobrau roedd dysgwyr sydd wedi cwblhau prentisiaethau mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau o Lefel 2 hyd at Lefel 5. Yn wir, un o enillwyr y noson – Cory Allen – yw’r dysgwr cyntaf i ddechrau prentisiaeth gradd yn y Coleg.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn cael ei ystyried ar gyfer gwobrau cyfrifeg
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori yn nigwyddiad Gwobrau PQ Magazine eleni.
Mae’r Gwobrau PQ, sy’n cael eu cynnal yn Llundain ar 26 Chwefror, yn dathlu llwyddiannau ym myd dysgu ac addysgu cyfrifeg.
Y pedwar categori yw:
Darllen mwyBlas rygbi ar ginio cyntaf y Pennaeth
Yn ystod y cyfnod yn arwain at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2020, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi gwahodd grŵp o arweinwyr busnes lleol i ginio ecsgliwsif yng nghwmni’r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Stuart Davies a’r gwestai arbennig James Hook.
Ymhlith y rhai fu’n bresennol roedd Alan Brayley o AB Glass a Chlwb Busnes Bae Abertawe, Sarah Davies o Gyfreithwyr JCP, Martin Morgan o Westy Morgans, Alun Williams o Gymdeithas Adeiladu Abertawe a Terry Edwards o John Weaver Contractors.
Darllen mwyMyfyrwyr yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth sgiliau Gwaith Fforensig
Mae dau fyfyriwr Gwyddoniaeth Gymhwysol o Goleg Gŵyr Abertawe yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth ranbarthol a fydd yn rhoi eu galluoedd ymchwilio fforensig ar brawf.
Erin Doek a Leon Harris, sy’n astudio cwrs BTEC Lefel 3 ar Gampws Tycoch, yw’r myfyrwyr cyntaf o’r Coleg i gymryd rhan yn nigwyddiad Gwyddor Fforensig CystadleuaethSgiliauCymru, sy’n cael ei gynnal yng Ngholeg Gwent ar 31 Ionawr.
Ar y diwrnod, bydd Erin a Leon yn cystadlu yn erbyn pedwar tîm arall sydd â senario trosedd realistig i’w dadansoddi ac i ymchwilio iddi.
Darllen mwyPum myfyriwr yn cystadlu yn Rhaglen Ddoniau WorldSkills
Mae pum myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill lleoedd yng Ngharfan Hir WorldSkills ar ôl dod i’r brig yn eu meysydd yn y Rownd Derfynol Genedlaethol ym mis Tachwedd.
Roedd Liam Hughes, Ben Lewis, Rhys Watts a Nathan Evans yn bedwar o’r pum enillydd yn y categori Electroneg Ddiwydiannol, ac enillodd Paulina Skoczek le ar gyfer Gwasanaethau Bwyty.
Darllen mwySymud Ymlaen i Addysg Bellach a thu hwnt
Mae’r cyn-fyfyriwr Technoleg Peirianneg Joe Snelling wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i brentisiaeth gydag OEM Peirianneg yn Llansamlet.
Dechreuodd Joe yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar Raglen y Bont lle roedd wedi sefyll allan oherwydd ei ddoniau, ei etheg gwaith gadarn a’i agwedd aeddfed tuag at y Coleg a’i yrfa yn y dyfodol.
Mae Rhaglen y Bont a elwir bellach yn ‘Ddilyniant i Addysg Bellach’ wedi’u hanelu at ymadawyr ysgol sydd heb benderfynu am eu llwybr gyrfa yn y dyfodol.
Darllen mwyTrefniadau ar gyfer noson agored Campws Tycoch – 20 Ionawr 2020
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal noson agored ar Gampws Tycoch nos Lun 20 Ionawr i’r rhai a hoffai astudio cyrsiau amser llawn ac addysg uwch.
Gan fod y campws mor fawr a helaeth, isod rydym wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr ar y noson:
Canolfan Broadway:
Os hoffech astudio cwrs gwallt, harddwch neu holisteg gallwch wneud eich ffordd yn uniongyrchol i Ganolfan Broadway os yw’n well gennych. Lleolir hon ar ben uchaf Campws Tycoch.
Coleg ar restr fer ar gyfer pedair gwobr AB TES
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori yng Ngwobrau clodfawr AB TES 2020.
Mae’r gwobrau yn gyfle i ddathlu ymroddiad ac arbenigedd pobl a thimau sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i wella sgiliau pobl ifanc ac oedolion sy’n ddysgwyr.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 45
- Tudalen nesaf ››