Rwy’n mawr obeithio eich bod chi a’ch teulu yn ymdopi cystal ag sy’n bosibl yn ystod y cyfnod hynod rhyfedd ac anodd hwn.
Beth bynnag yw’ch amgylchiadau, mae angen i ni i gyd gynnig cymorth ac anogaeth i’n gilydd i ddod drwyddo. Rwy’n gwybod bod eich ysgol yn gwneud gwaith gwych o ran rhoi cymorth i chi, a’i bod yn ymrwymedig i ddyheadau pob un o’i disgyblion ar gyfer y dyfodol.
Wrth gwrs, mae’n adeg bwysicach fyth i chi’ch hunain o ran penderfnynu ble i fynd nesaf yn eich addysg a pha lwybr i’w gymryd.
Felly roeddwn i am ysgrifennu atoch i ddweud wrthych y bydd Coleg Gŵyr Abertawe yma i chi i roi cyngor ac arweiniad, ac i’ch helpu i gychwyn cam nesaf eich taith.
Rydym yn deall yn iawn y gallech fod yn nerfus am y graddau y gallech eu cael ac a fyddwch yn ennill lle ar y cwrs o’ch dewis. Rwy’n addo i chi y bydd fy staff yn awyddus i wneud popeth posibl i’ch cael ar y cwrs iawn, ac y byddant yn treulio’r amser sy’n angenrheidiol i dawelu’ch meddwl ac i’ch arwain yn effeithiol. Byddwn yn eich helpu trwy’r cyfnod pontio i’r Coleg, a byddwn yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’ch holl opsiynau.
Er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer eich cam nesaf, mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais i ni cyn gynted ag y gallwch, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Bydd hyn yn caniatáu i ni gynnig lle amodol i chi ar y cwrs o’ch dewis ac i’ch gwahodd i weminarau sy’n benodol i’ch cwrs.
Bydd y cyfleoedd hyn yn rhoi cyngor ac arweiniad pellach i chi ar ddewis y cwrs sy’n iawn i chi, yn ogystal ag ateb cwestiynau sydd gennych am y cwrs rydych wedi’i ddewis. Os ydych chi am wneud unrhyw newidiadau i’r cwrs/cyrsiau o’ch dewis, byddwn yn hapus i wneud hynny ar eich rhan. Rwy’n gwarantu y bydd lle yn y Coleg i chi beth bynnag fo’ch canlyniadau neu’ch amgylchiadau. Bydd rhaglenni ar gael hefyd i’ch helpu chi i ddal i fyny ar feysydd lle, yn eich barn chi, mae angen help neu gefnogaeth arnoch, ar ôl colli cymaint o addysgu wyneb yn wyneb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ar ôl i chi dderbyn eich canlyniadau, byddwch wedyn yn cael trafodaethau pellach gyda’n staff profiadol, a fydd yn gallu eich cynghori ar eich dewis gwrs yn dibynnu ar eich canlyniadau. Peidiwch â phoeni os bydd angen i chi newid eich meddwl yn yr haf yn dilyn eich canlyniadau, ein nod yw eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer y dyfodol.
Mae ein Coleg yn gymuned gefnogol sy’n rhoi cyfleoedd i bawb. Rwy’n edrych ymlaen at eich gweld yn y Coleg ym mis Medi ac rwy’n dymuno’r gorau i chi yn ystod y misoedd nesaf ac wrth i ni ddechrau gweithio gyda’n gilydd i gyrraedd eich nodau ar gyfer y dyfodol.
Mark Jones
Pennaeth