Eleni, gan fod mwyafrif ein cymuned o ddysgwyr a staff yn gweithio o adref, penderfynom ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ychydig yn wahanol.
Lansiwyd y diwrnod gyda chystadleuaeth Beth yw Cymru/Cymreictod i mi?, gan wahodd amrywiaeth o ddatganiadau, lluniau, fideos a darnau o waith oedd yn cynrychioli Cymru i raio’n staff a’n dysgwyr.
Cafwyd bron 50 o ddarnau i mewn o amrywiaeth o adrannau ar draws y Coleg cyfan, gyda nifer o fyfyrwyr ESOL yn cymryd rhan.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai enillydd y gystadleuaeth yma yw’r darlithydd celf, Marilyn Jones, am ei darluniau o lefydd sy’n bwysig iddi hi o amgylch Bro Gwŷr (yn y llun).
Bu staff yn cynnal cwis ar thema Cymru ar y dydd Gwener, roedd calendr Adfent dyddiol ar y Porth Staff gyda chwestiynau amrywiol am Gymru a gwobr bob dydd am bob ateb cywir.
Yr enillwyr ar gyfer y rhain oedd:
Cwis Staff: Jonathan Yeomans
Calendr Adfent Llun: Tina Arnold
Calendr Adfent Mawrth: Ewen Mclaughlin
Calendr Adfent Mercher: Geoffrey Gorman
Calendr Adfent Iau: Stuart Kelly
Calendr Adfent Gwener: David Thomas
Buodd myfyrwyr ein Canolfan Trin Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway yn creu delweddau Cymreig, a rhai o fyfyrwyr y Vanilla Pod yn creu bwyslenni a chynnyrch Cymreig cartref. Yn fyw ar Facebook buodd Kate Newnham, un o’n llysgenhadon Cymraeg yn canu a chwarae’r gitâr mewn gig fyw – gydag ymateb gwych!
“Diolch yn fawr iawn i’r holl staff a gefnogodd y diwrnod a chael hwyl wrth wneud hynny,” meddai Anna Davies, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y Coleg.
“Mae o’n gyfnod anodd i ni gyd wrth i’r rhan fwyaf o’r dysgu barhau o adref, ac mae hi felly yn fwy pwysig nag erioed dathlu’r pethau bychain a gwneud yn fawr o’r digwyddiadau positif sy’n digwydd o’n cwmpas.”