Coleg Gŵyr Abertawe yw’r Coleg cyntaf yng Nghymru i gael Gwobr Achrededig gan y Pwyllgor Achredu Awtistiaeth.
Mewn prosiect dan arweiniad Ceri Low, mae’r Coleg wedi gweithio gyda’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol am y tair blynedd diwethaf. Roedd y broses yn cynnwys asesu a monitro ein gwaith gyda dysgwyr awtistig yn barhaus, a’n cysylltiadau gyda’r gymuned leol a rhanddeiliaid.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd ymgynghorydd y Gymdeithas wedi ymweld â phob safle, gan arsylwi ar amrywiol sesiynau addysgu, a chwrdd â staff allweddol i drafod taith y Coleg.
“Er 2013 mae’r Coleg wedi gwella’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr awtistig yn sylweddol”, dywedodd Ceri. “Ymhlith pethau eraill, rydyn ni wedi sefydlu Grŵp Strategaeth Awtistiaeth, cyrsiau PACE o fewn Sgiliau Byw’n Annibynnol, datblygu Rhaglen Drawsnewid sy’n flaenllaw yn y sector ar gyfer myfyrwyr ag ADY, a chynnal prosiectau ymchwil ar y cyd â Gwasanaethau Cymorth Awtistiaeth Prifysgol Abertawe.”
Yn ogystal â hyn oll, cafodd darpariaeth Cymorth Myfyrwyr y Coleg ei graddio yn ‘Ardderchog’ yn arolygiad mwyaf diweddar Estyn.
Llongyfarchiadau anferth i Ceri, Rheolwr Maes Dysgu Simon Pardoe, a’r staff sydd wedi gweithio mor galed i wneud i hyn ddigwydd: Michelle Williams, Noel Davies, Rebecca Thomas, Jody Ralph, Mo Qasim, Marilyn Jones, Lisa Scally, Nicola Grant-Rees, Neil Griffiths, Kiran Jones, Claire West, Paul Mouncher, Jarrod Waldie, Ian McCloy, Andrew Stokes, ein tîm Electroneg, Katie Leopold a Christina Palmer.
A hefyd ein tîm LSA/ESO - Emma Jenkins, Helen Morris, Jackie Thomas, Antonella Gregory, Tracy Macklin, Angela Glover, Deb Banfield, Andrea Baillie-Powell, Karen Hope, Tom Murphy, Ashley Roberts a Gerard Morgan.
Yn olaf, diolch i’n myfyrwyr a gymerodd ran: Kaitlin Law, Bryce Bowdens, Rhiannon Brooks, tîm PACE, Euan Harrington, Ryan Manning, Ryan Davies, Rhys Wiemers, Dylan Hession, Dylan Berrell, Rhys Edwards, Jake Goggin, Keiran Ralls a Ronan Pesarillo.