Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi llofnodi Memorandwm Ddealltwriaeth gydag Ysgol Prometheus yn Noida, India.
AARC (Asesu Addysg Ryngwladol Caergrawnt) achrededig yw Ysgol Prometheus a chafodd ei denu i Goleg Gŵyr Abertawe oherwydd ein profiad a’n llwyddiant yn y sector Safon Uwch. Bydd y bartneriaeth gyffrous hon yn cydweithredu ar nifer o feysydd gan gynnwys ysgolion haf a gaeaf, tiwtorialau ar-lein a’r Rhaglen Paratoi Rhydygrawnt.
Dywedodd Mark Jones, y Pennaeth “Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ei bartner cyntaf yn India, sef Ysgol Prometheus yn Noida. Mae rhyngwladoli yn flaenoriaeth i’r Coleg, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithrediad hirdymor a chynhyrchiol gydag Ysgol Prometheus.
“Dros y blynyddoedd, rydym wedi helpu miloedd o fyfyrwyr i gyflawni eu potensial a symud ymlaen i rai o brifysgolion gorau’r byd, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt. Yn yr un modd, rydym yn gobeithio helpu myfyrwyr yn India i wireddu eu breuddwydion, ac mi fydd y bartneriaeth hon ag Ysgol Prometheus yn sicr yn chwarae rhan hanfodol wrth inni geisio gwneud hyn.”
Dywedodd Rashima Varma (yn y llun uchod), Pennaeth Ysgol Uwchradd Prometheus “Braint yw llofnodi Memorandwm Dealltwriaeth gyda Choleg Gŵyr Abertawe, un o golegau mwyaf blaenllaw Cymru sy’n cynnig cwricwlwm Safon Uwch. Mae’r bartneriaeth hon yn ein cyffroi, oherwydd ei bod yn gyfle i feithrin cysylltiadau diwylliannol ac yn gyfle i rannu arferion da trwy gyfnewid athrawon a sicrhau ansawdd.”
Disgwylir i’r ysgol aeaf ar-lein gyntaf gychwyn ym mis Ionawr 2021.