Mae’n debyg bod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan y Gweinidog Addysg am y ffordd y bydd asesiadau TGAU a Safon Uwch yn cael eu graddio eleni yn edrych yn debyg iawn i’r rhai a ddefnyddiwyd yn 2020. Unwaith eto, bydd darlithwyr yn pennu graddau yn seiliedig ar eu hasesiad o waith myfyrwyr ond eleni fe’i gelwir yn Raddau a Bennir gan y Ganolfan.
Graddau a Bennir gan y Ganolfan
Mae’r egwyddorion a’r arweiniad cyffredinol ynghylch sut y bydd y Graddau hyn a Bennir gan y Ganolfan yn gweithio (fframwaith asesu) bellach yn cael eu datblygu gan Gymwysterau Cymru a CBAC.
Yn y Coleg, mae ein timau cyrsiau eisoes yn drafftio eu cynlluniau asesu eu hunain a fydd yn helpu darlithwyr i bennu’r graddau hyn, ac y gellir eu cwblhau’n gyflym pan fydd y fframwaith ar waith.
Bydd y cynlluniau hyn yn ceisio cynnwys ystod dda o asesiadau, gan gynnwys rhai sydd eisoes wedi’u cwblhau a rhai a fydd yn cael eu cynnwys mewn dosbarthiadau yn ystod gweddill y tymor.
Yn sicr, nid wyf am danamcangyfrif yr heriau y bydd hyn yn eu cyflwyno i’n darlithwyr. Mewn llawer o achosion, dim ond am tua 10 i 12 wythnos y byddant wedi adnabod eu myfyrwyr a’u lefel galluoedd. Fodd bynnag, mewn sawl ffordd dylai’r ffaith ein bod wedi gallu parhau â chymaint o addysgu wyneb yn wyneb yn y tymor cyntaf nawr weithio o’n plaid gan y bydd digon o asesiadau i ddewis ohonynt.
Graddio galwedigaethol
Wrth gwrs yr agwedd fwyaf siomedig ar y datganiad diweddaraf hwn yw bod cyhoeddiad ar TGAU a Safon Uwch unwaith eto yn cael ei wneud cyn unrhyw gyhoeddiad mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol.
Hoffwn sicrhau myfyrwyr galwedigaethol a rhieni bod pwysau sylweddol yn cael eu rhoi ar y gwahanol fyrddau arholi galwedigaethol o ran addasiadau, a Llywodraeth Cymru ac Undebau Llafur o ran opsiynau ar gyfer ailagor campysau yn rhannol fel y gall myfyrwyr ymgymryd â’u hasesiadau ymarferol.
Ar hyn o bryd, rwy’n eistedd ar grŵp Dychwelyd i’r Gwaith Llywodraeth Cymru sydd wrthi’n datblygu rhai opsiynau, y byddaf yn parhau i’w rhannu gyda chi cyn gynted ag y gallaf.
Profi cyflym Covid-19
Cyhoeddiad annisgwyl diweddar arall oedd y newyddion bod Llywodraeth Cymru a’r DU wedi oedi cynlluniau i gyflwyno profion dyddiol cyflym ar gyfer coronafeirws gan fod angen mwy o ymchwil ar sut y byddai’r system yn gweithio’n ymarferol.
Credaf fod hyn yn eithaf dealladwy, gan fod nifer fawr o gwestiynau o hyd y mae angen eu hateb cyn i ni ddod i unrhyw benderfyniad o ran sut y gallwn gyflwyno profion pan ddychwelwn i’r Coleg.
CGA a chi
Ac yn olaf yr wythnos hon, rydym yn gwybod bod nifer fawr o fyfyrwyr yn cael yr heriau cyfredol hyn nid yn unig yn siomedig ond yn bryderus hefyd. Am y rheswm hwn, rwy’n falch iawn y byddwn yn lansio ein strategaeth iechyd meddwl a lles newydd CGA a chi yn fuan sy’n nodi amrywiaeth o weithgareddau, gwasanaethau a chyfleoedd datblygu sydd ar waith i fyfyrwyr.
Byddwn hefyd yn lansio cyfres o ddigwyddiadau ffocws ar gyfer myfyrwyr sy’n gweithio o bell - mae pob un ohonynt ar gael ar y cynlluniwr lles myfyrwyr.
Rydym yn ymrwymedig i’ch cadw chi i ddysgu a symud ymlaen. Rydym yn deall y gall hyn fod yn gyfnod cythryblus felly cofiwch barhau i siarad â ni. Rydym yma i chi os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach neu os oes angen cymorth arnoch chi.
Sut i gadw mewn cysylltiad
Cysylltwch â’ch tiwtor cwrs ar e-bost neu Microsoft Teams.
Ewch i’r porth myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth a dolenni i’r cymorth lles.
Mark Jones, Pennaeth