Newyddion y Coleg
Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu
Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe amrywiaeth mawr o gyrsiau rhan-amser ar gael.
Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, 9-15 Medi 2024, rydyn ni’n gyffrous i gynnig amrywiaeth o sesiynau blasu am ddim gyda’r nod o danio’ch creadigrwydd ac ysgogi cariad at ddysgu gydol oes. Ymunwch â ni i archwilio sgiliau newydd, ailddarganfod hen hobïau, a chysylltu â chymuned gefnogol o gyd-ddysgwyr.
Darllen mwyIsaac yn goresgyn heriau bywyd anoddaf i ennill gwobr genedlaethol
Ar ôl wynebu rhai o'r heriau bywyd anoddaf, mae Isaac Fabb bellach yn ddysgwr ysbrydoledig sy'n fodel rôl i bobl ifanc sy'n dechrau yn eu gyrfaoedd.
Mae'r bachgen 22 mlwydd oed, a gafodd ddiagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn 17 oed, wedi goresgyn caethiwed i gyffuriau a cholli ei frawd-yng-nghyfraith i gaethiwed i ragori fel saer talentog.
Seminar Arweinyddiaeth: Edrych i’r Dyfodol – cyfle unigryw i ddysgu gan arweinwyr diwydiant
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi seminar arweinyddiaeth sy’n digwydd ar ddydd Iau 19 Medi, 10am – 4pm yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.
Digwyddiad yw Edrych Tua’r Dyfodol sy’n cynnig cyfle arbennig i gael mewnwelediad gwych i arwain a rheoli gan siaradwyr gwadd uchel eu parch, gan gynnwys Menai Owen Jones, Ben Burggraaf, Stuart Davies, Bernie Davies a Paul Kift.
Darllen mwyDiwrnod Croeso 2024
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal digwyddiad croeso arbennig â thema Gymraeg ar gyfer myfyrwyr.
Daeth staff a dysgwyr rhugl at ei gilydd ar gyfer Diwrnod Croeso 2024 a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau gyda’r nod o gael pawb i ddefnyddio eu Cymraeg a dod i adnabod ei gilydd.
Darparwyd yr adloniant gan yr artist bît-bocsio a lwpio byw arloesol, Mr Phormula, ac roedd y Doctor Cymraeg hefyd wrth law gan annog pawb i fanteisio ar unrhyw gyfle i ddefnyddio iaith y nefoedd.
Darllen mwyCraffu ar Gymorth gyda Daisy Cavendish, myfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Mae Daisy Cavendish, a lwyddodd i sicrhau pedwar A* yn dathlu Diwrnod Canlyniadau trwy fyfyrio ar y cymorth a dderbyniodd yn ystod ei hamser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Sicrhaodd A* mewn Cemeg, Bioleg, Mathemateg a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru, a bydd yn mynd i Brifysgol Caerwysg i astudio Meddygaeth, yn dilyn cyfnod fel un o fyfyrwyr Rhaglen Baratoi Meddygon, Deintyddion a Milfeddygon (MDM) Coleg Gŵyr Abertawe.
C: Pa gymorth sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe?
Myfyrwyr yn sicrhau lleoedd mewn prifysgolion nodedig wedi canlyniadau Safon Uwch rhagorol
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu blwyddyn arall o lwyddiannau rhagorol o ran canlyniadau arholiadau a dilyniant i brifysgolion gorau’r DU.
Mae myfyrwyr sy’n dilyn rhaglen Anrhydeddau CGA wedi sicrhau bron 200 o leoedd rhyngddynt mewn prifysgolion Russell Group.
Sgiliau iaith Saesneg yn talu ar eu canfed i Eleri
Mae Eleri Reed, myfyriwr Safon Uwch, wedi ennill gwobr mewn cystadleuaeth a gynhelir gan Brifysgol Aston ar gyfer myfyrwyr Saesneg Blwyddyn 12 ledled y DU.
Fe enillodd Eleri’r wobr gyntaf, sef taleb llyfrau gwerth £50, ond yn ogystal â hyn, bydd ei chyd-ddisgyblion yn derbyn darlith arbenigol ar bwnc o’u dewis wedi’i recordio’n arbennig ar eu cyfer gan aelod o staff academaidd Prifysgol Aston.
Gwir Fanteision Astudio yn y Coleg: gyda Phennaeth Coleg Gŵyr Abertawe
Gyda diwrnod canlyniadau TGAU (Awst 22) ar y gorwel, rydym wedi cael sgwrs gyda Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe i ddeall manteision astudio yn y Coleg i’r rhai sy’n gadael yr ysgol.
C: Allech chi roi trosolwg o Goleg Gŵyr Abertawe ar gyfer ein darllenwyr?
Canlyniadau Safon Uwch a Galwedigaethol L3 Coleg Gŵyr Abertawe 2024
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o nodi blwyddyn arall o gyflawniadau anhygoel, wrth i fyfyrwyr sicrhau canlyniadau Safon Uwch a Galwedigaethol Lefel 3 da iawn ar gyfer 2024.
Sut i gael dy ganlyniadau arholiadau / cymwysterau Awst 2024
Os oes gennyt ti ddiwrnodau canlyniadau penodedig, dylet ti gadw llygad allan am wahoddiad gennym ni w/d dydd Llun 5 Awst.
Bydd hwn yn rhoi manylion y trefniadau ar gyfer casglu dy ganlyniadau. Y diwrnodau canlyniadau penodedig yw:
Safon Uwch, Galwedigaethol Lefel 3 (fel BTEC, OCR, UAL, NCFE) a Bagloriaeth Cymru
Dydd Iau 15 Awst 2024 (o 9.15am)
TGAU a Galwedigaethol Lefel 2
Dydd Iau 22 Awst 2024 (o 9.15am)
Bydd canlyniadau ar gael hefyd drwy’r e-CDU ar y ddau ddiwrnod.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 3
- Tudalen nesaf ››