Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill teitl nodedig Economegydd Ifanc y Flwyddyn Cymru gan Discover Economics.
Cafodd Cole Brydson, myfyriwr ail flwyddyn sy’n astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Astudiaethau Busnes, Economeg a Thechnoleg Ddigidol yn ogystal â Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ar Gampws Gorseinon, ei gydnabod am ei draethawd llawn gwybodaeth am ysgogiadau anghydraddoldeb cyfoeth yn y DU a sut y gellir mynd i’r afael â nhw.
Mae Discover Economics yn elusen sydd â’r nod o wella cynrychiolaeth ym maes economeg.
Mae gwobr Cole yn rhan o gystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn, digwyddiad blynyddol a drefnir gan Discover Economics mewn partneriaeth â Chymdeithas Frenhinol Economeg, KPMG a’r Financial Times.
Anelir y gystadleuaeth at fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 10 i 13, ac mae’n eu hannog i archwilio heriau economaidd cyfoes wrth hyrwyddo astudiaethau economeg.
Dyfernir Economegydd Ifanc y Flwyddyn Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Bydd Cole bellach yn cael cyfle i deithio o gwmpas Trysorfa Cymru i gydnabod ei waith ardderchog.
“Rydyn ni’n falch iawn o Cole a bod ei waith wedi sefyll allan mewn maes cystadleuol iawn, gan sicrhau gwobr Cymru iddo yn y gystadleuaeth,” dywedodd y darlithydd Olivia Wild.
“Ces i’m synnu pan ddysgais i fy mod i wedi ennill a dwi’n ddiolchgar iawn ac yn gyffrous i gael y cynnig i deithio o amgylch y Drysorfa,” dywedodd Cole, a gafodd bedair gradd A yn ei arholiadau Safon UG yn gynharach eleni. “Ar ôl y Coleg, dwi’n bwriadu gwneud cais i fynd i’r brifysgol – mae opsiynau ar hyn o bryd yn cynnwys astudio Economi Tir yng Nghaergrawnt neu Economeg ym Mryste.”