Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn gwyrdroi'r duedd a nodir mewn dau adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Yn y cyntaf ohonynt, mae'r ffigurau a ryddhawyd gan y corff derbyn UCAS yn dangos bod llai na 25% o bobl ifanc 18 oed yn chwarter etholaethau Cymru yn mynd i'r brifysgol – gyda ffigurau o dan 25% ar gyfer Gorllewin Abertawe a Dwyrain Abertawe, ffigur ychydig bach yn uwch ar gyfer Gŵyr, a'r ffigur uchaf yng Nghaerdydd ar 47%.
Er hynny, yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, lle mae nifer fawr debyg o fyfyrwyr yn dod o ardaloedd ar draws Gorllewin Abertawe, Dwyrain Abertawe a Gŵyr, o garfan o lai na 2,000 bydd dros 1,000 o fyfyrwyr (h.y. dros 50%) yn mynd ymlaen i'r brifysgol eleni.
Yn ôl ail adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y BBC, mae nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Russell Group – sef y 24 prifysgol gorau yn y DU - wedi gostwng gan 10% yn y tair blynedd diwethaf.
Ond, unwaith eto, mae'r ffigurau ar gyfer myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe sydd wedi cael lle i astudio yn y prifysgolion gorau hyn yn dangos mai'r gwrthwyneb sy'n wir - gyda nifer y myfyrwyr yn cynyddu o 136 yn 2014 i 175 yn 2017. Mae myfyrwyr yr haf hwn yn symud ymlaen i ddim llai nag 19 o'r 24 prifysgol gorau hyn, gan gynnwys pedwar sy'n mynd i Gaergrawnt a dau i Rydychen.
“Rydym yn falch iawn ein bod yn nofio yn erbyn y don yn yr achosion arbennig hyn gyda nifer o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol ac, o'r myfyrwyr hyn, mae bron un ym mhob pump wedi cael lle yn y prifysgolion gorau," meddai'r Pennaeth Mark Jones. "Dawn a gwaith caled ein myfyrwyr sydd i gyfrif am hyn, ynghyd ag ymroddiad ac ymrwymiad darlithwyr a staff cymorth ar draws y Coleg."
Mae’r ffigurau canlynol yn dangos nifer y myfyrwyr a gafodd eu derbyn eleni yn ôl prifysgol:
Prifysgol |
2017 |
Prifysgol Birmingham |
8 |
Prifysgol Bryste |
22 |
Prifysgol Caergrawnt |
4 |
Prifysgol Caerdydd |
79 |
Prifysgol Caeredin |
1 |
Prifysgol Caerwysg |
11 |
Coleg Imperial Llundain |
2 |
Coleg y Brenin Llundain |
7 |
Prifysgol Lerpwl |
4 |
Prifysgol Manceinion |
2 |
Prifysgol Newcastle |
2 |
Prifysgol Nottingham |
4 |
Prifysgol Rhydychen |
2 |
Prifysgol y Frenhines Mary Llundain |
4 |
Prifysgol Sheffield |
3 |
Prifysgol Southampton |
6 |
Coleg Prifysgol Llundain |
5 |
Prifysgol Warwig |
7 |
Prifysgol Efrog |
2 |