Sesiynau Blasu Wythnos Addysg Oedolion
Trosolwg
I ddathlu Wythnos Addysg Oedolion, mae gennym amrywiaeth mawr o sesiynau blasu am ddim y gelli di ymuno â nhw ym mis Medi.
Rydyn ni’n falch o gefnogi’r ymgyrch genedlaethol hon ochr yn ochr â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith i annog oedolion o bob oedran i archwilio cyfleoedd dysgu newydd.
📍 Dosbarthiadau wyneb yn wyneb
Dere i archwilio sesiynau blasu am ddim mewn celf, crefftau, sgiliau digidol, garddwriaeth, cymwysterau hanfodol a llawer mwy! Wedi’u haddysgu mewn lleoliadau ar draws Abertawe.
Os oes dosbarth ar y rhestr sydd heb fotwm ‘Cofrestru’, does dim angen cadw lle, dim ond troi i fyny ar y diwrnod.
Gweld dosbarthiadau wyneb yn wyneb
Y Storfa
Sesiynau galw heibio - does dim angen cadw lle:
- Mynediad i Fusnes, 10am-2pm, Dydd Iau 24 Medi
- Languages, 10am-2pm, Dydd Iau 24 Medi
- Mynediad i Beirianneg, 10am-2pm, Dydd Iau 24 Medi
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 10am-2pm, Dydd Iau 24 Medi
💻 Gweminarau byw ar-lein
Ymuna â’n gweminarau rhyngweithiol ar-lein wedi’u dylunio i wella dy sgiliau busnes a phroffesiynol gartref.
Gweminarau sydd i ddod:
Arwain gwelliant parhaus: Technegau Gwella Busnes Lefel 3
Dydd Llun 21 Medi, 10am-10.30am
Ydych chi’n barod i arwain newid positif yn eich gweithle? Dyma sesiwn sy’n archwilio sur mae’r cymhwyster Technegau Gwella Busnes Lefel 3 yn datblygu’r sgiliau arwain sydd eu hangen i wella timau, gweithredu gwelliant parhaus a chreu ffyrdd mwy effeithlon o weithio.
Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
Dydd Llun 21 Medi, 11am-11.30am
I gynnig gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, rhaid i chi fod yn hyderus a medrus. Mae'r weminar hon yn archwilio ein cymwysterau Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2 a 3. Mae’r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym meysydd gwerthu, manwerthu, gweinyddu, canolfannau cyswllt a mwy. Darganfyddwch sut mae'r cymwysterau yn datblygu sgiliau ymarferol mewn cyfathrebu, darparu gwasanaeth cwsmeriaid, ymdrin â galwadau ffôn a chyfryngau cymdeithasol.
Datblygu dyfodol ym maes Rheoli Ystadau a Chyfleusterau
Dydd Llun 21 Medi, 1pm-1.30pm
P'un a ydych chi'n dechrau gyrfa mewn Rheoli Cyfleusterau neu'n symud ymlaen i rôl arwain strategol, dewch i’r sesiwn am ddim hon i archwilio cymwysterau IWFM Lefel 2, 3, 4 a 5. Darganfyddwch lwybr addas i chi a'ch tîm, gan ddysgu sut mae cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol yn cefnogi datblygiad proffesiynol ar draws y sector FM.
Arweinyddiaeth effeithiol: Arwain a Rheoli - Lefel 4 a 5
Dydd Mawrth 22 Medi, 10am-10.30am
Wedi'i gynllunio ar gyfer rheolwyr ac uwch arweinwyr, mae'r sesiwn hon yn archwilio cymwysterau Arwain a Rheoli CMI ac ILM Lefel 4 a 5. Dysgwch sut mae'r rhaglenni hyn yn datblygu'r sgiliau strategol sydd eu hangen i hybu arloesedd, rheoli newid a gwelliant parhaus ar draws eich sefydliad.
Hyfforddiant ar gyfer twf: Datblygu pobl a gwella perfformiad
Dydd Mawrth 22 Medi, 12pm-12.30pm
P'un a ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau arwain neu am greu diwylliant hyfforddi cryfach o fewn eich sefydliad, ymunwch â'r sesiwn hon am ddim i ddarganfod cymhwyster Hyfforddi a Mentora CMI Lefel 3. Dysgwch sut mae'r cymhwyster hwn - a gydnabyddir yn genedlaethol - yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddatblygu technegau hyfforddi effeithiol sy'n gwella hyder, perfformiad a datblygiad yn y gweithle.
Datblygu arweinwyr y dyfodol: Arwain a Rheoli – Lefel 2 a 3
Dydd Mawrth 22 Medi, 2pm-2.30pm
Os ydych chi eisiau cymryd eich cam cyntaf at rôl reoli neu'n dymuno datblygu arweinwyr nesaf eich sefydliad, ewch i’r gweminar hon i archwilio ein cymwysterau Arwain a Rheoli CMI ac ILM. Bydd yn gyfle i ddarganfod sut mae’r cymwysterau Lefel 2 a 3 yn meithrin sgiliau ymarferol, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen i arwain pobl yn effeithiol.
Cefnogi pobl a datblygu eich gyrfa trwy Wybodaeth, Cyngor ac Arweiniad
Dydd Mercher 23 Medi, 11am-11.30am
Os ydych chi'n cefnogi dysgwyr, cwsmeriaid, cydweithwyr neu gymunedau, gall dulliau effeithiol o ran arweiniad wneud gwahaniaeth mawr. Mae'r weminar hon yn gyfle i ddarganfod mwy am ein cymwysterau Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 3 a 4, sydd wedi'u cynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n darparu gwybodaeth ac arweiniad fel rhan o'u rôl ar draws ystod eang o sectorau.
Datblygu Sgiliau Digidol: Llythrennedd Digidol Lefel 3
Dydd Mercher 23 Medi, 2.30pm-3pm
Adeiladwch y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle modern. Ewch i’r sesiwn i ddarganfod ein cwrs pum wythnos Llythrennedd Digidol Achrededig Lefel 3, lle byddwch yn archwilio Microsoft 365, DA (deallusrwydd artiffisial), Canva, Gamma, cydweithredu digidol, chwilio ar-lein a seiberddiogelwch trwy ymgymryd â dysgu ymarferol a phrosiectau yn y byd go iawn.
Cyflawni Dilyniant Gyrfa ym maes Cyfrifeg: AAT Lefelau 2 i 4
Dydd Iau 24 Medi, 10am-10.30am
P'un a ydych chi'n cymryd eich camau cyntaf i gyfrifeg neu'n edrych i ddatblygu eich arbenigedd ariannol proffesiynol, mae'r weminar hon yn cwmpasu cymwysterau AAT a gydnabyddir yn genedlaethol ar Lefelau 2, 3 a 4. Dysgwch sut mae pob lefel yn adeiladu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymarferol, o gadw llyfrau a chostau i reoli cyllidebau, datganiadau ariannol a chyfrifyddu cymhleth.
Yn Cyflwyno Gweinyddiaeth Feddygol: Prentisiaeth newydd sbon yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Dydd Iau 24 Medi, 10.30am-11am
Dyma gyfle i fod ymhlith y cyntaf i ddarganfod prentisiaeth Gweinyddiaeth Feddygol newydd sbon yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Mae’r cymhwyster wedi'i gynllunio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o weinyddwyr gofal iechyd, a bydd y weminar hon yn archwilio sut mae'r rhaglen yn meithrin sgiliau ymarferol mewn gweinyddu cleifion, rheoli cofnodion, cyfathrebu, llywodraethu a gwasanaeth cwsmeriaid.
Holi’r arbenigwyr: Sesiwn Holi ac Ateb ar Reoli Adnoddau Cynaliadwy CIWM
Dydd Iau 24 Medi, 1pm-1.30pm
Oes gennych chi gwestiynau am gymwysterau CIWM? Ymunwch â'n sesiwn holi ac ateb fyw i archwilio cymwysterau Rheoli Adnoddau Cynaliadwy Lefel 2, 3 a 4. P'un a ydych chi'n dechrau gyrfa mewn rheoli gwastraff ac adnoddau neu'n datblygu staff profiadol, bydd ein tiwtoriaid ar gael i ateb cwestiynau ar gynnwys y cwrs, ein darpariaeth, cyllid a dilyniant.
Arweinyddiaeth effeithiol: Arwain a Rheoli - Lefel 4 a 5
Dydd Iau 24 Medi, 1pm-1.30pm
Wedi'i gynllunio ar gyfer rheolwyr ac uwch arweinwyr, mae'r sesiwn hon yn archwilio cymwysterau Arwain a Rheoli CMI ac ILM Lefel 4 a 5. Dysgwch sut mae'r rhaglenni hyn yn datblygu'r sgiliau strategol sydd eu hangen i hybu arloesedd, rheoli newid a gwelliant parhaus ar draws eich sefydliad.
Cyflawni Dilyniant Gyrfa ym maes gwasanaethau Cyfreithol: CILEX Levels 3 and 5
Dydd Iau 24 Medi, 2pm-2.30pm
Os ydych chi'n dymuno dechrau gyrfa fel paragyfreithiwr neu gymryd y cam nesaf yn y sector cyfreithiol, mae'r weminar hon yn archwilio ein cymwysterau CILEX a gydnabyddir yn genedlaethol ar Lefelau 3 a 5. Dyma gyfle i ddarganfod sut mae Lefel 3 yn datblygu'r wybodaeth broffesiynol a chyfreithiol sydd ei hangen ar gyfer sicrhau gyrfa lwyddiannus mewn gwasanaethau cyfreithiol, tra bod ein llwybr Lefel 5 newydd sbon yn cefnogi gweithwyr proffesiynol profiadol i weithio tuag at statws Paragyfreithiol Uwch CILEX.
Dechreua dy daith Ddarbodus yma: Technegau Gwella Busnes Lefel 2
Dydd Gwener 25 Medi, 10am-10.30am
Dysga sut y gall syniadaeth Ddarbodus dy helpu i wella prosesau, lleihau gwastraff a chyfrannu at weithle mwy effeithlon. Mae’r sesiwn hon yn cyflwyno ein cymhwyster Technegau Gwella Busnes Lefel 2, ochr yn ochr â’n cwrs byr Cyflwyniad i Fethodoleg Ddarbodus gan roi llwybr clir at welliant parhaus i unigolion a chyflogwyr.
Cyflawni prosiectau gyda hyder: Lefelau Rheoli Prosiectau 3 a 4
Dydd Gwener 25 Medi, 11am-11.30am
P'un a ydych chi'n rheoli eich prosiect cyntaf neu'n arwain mentrau busnes cymhleth, ymunwch â'n gweminar i archwilio ein Cyflwyniad CMI Lefel 3 i Reoli Prosiectau a Rheoli Prosiectau ILM 4. Darganfyddwch sut mae'r rhaglenni hyn yn datblygu'r sgiliau ymarferol i gynllunio, rheoli a chyflawni prosiectau llwyddiannus.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cyrsiau hyn.
Mae ein sesiynau blasu yn gam cyntaf delfrydol! Gallwch barhau i ddysgu drwy ymuno â chyrsiau addysg i oedolion, gan gynnwys opsiynau rhan-amser hyblyg. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan Addysg i Oedolion.



