Peiriannydd Dadansoddeg Cyswllt Ardystiedig Microsoft Fabric (DP600) – Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn cwmpasu dulliau ac arferion ar gyfer gweithredu a rheoli dadansoddeg data ar raddfa menter gan ddefnyddio Microsoft Fabric.
Bydd dysgwyr yn ychwanegu at eu profiad o ddadansoddeg a byddant yn dysgu sut i ddefnyddio cydrannau Microsoft Fabric gan gynnwys llyndai (lakehouses), warysau data, nodiaduron, llif data, piblinelli data yn ogystal â modelau semantig, i greu a threfnu asedau dadansoddeg.
Mae’r cymhwyster yn fwyaf addas i’r rhai sydd ag ardystiad PL300 neu arbenigedd tebyg mewn defnyddio Power BI ar gyfer trawsnewid, modelu, delweddu a rhannu data. Dylai dysgwyr fod â phrofiad blaenorol o adeiladu a threfnu atebion dadansoddeg data ar lefel menter.
Bydd dysgwyr yn cael cymorth ar ôl y cwrs i sefyll arholiad Microsoft DP600 a chyflawni statws ardystiedig DP600.
Gwybodaeth allweddol
Anelir y cwrs hwn yn bennaf at weithwyr proffesiynol data sydd â phrofiad o fodelu data, tynnu data a dadansoddeg data. Mae DP600 ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am ddefnyddio Microsoft Fabric i greu a threfnu atebion dadansoddeg data ar raddfa menter.
Mae’r cymhwyster yn fwyaf addas i’r rhai sydd ag ardystiad PL300 neu arbenigedd tebyg mewn defnyddio Power BI ar gyfer trawsnewid, modelu, delweddu a rhannu data. Dylai dysgwyr fod â phrofiad blaenorol o adeiladu a threfnu atebion dadansoddeg data ar lefel menter.
Bydd y cwrs yn rhoi modd i ymgeiswyr arddangos y sgiliau canlynol:
- Dechrau arni gyda Microsoft Fabric
- Gweithredu llyndy gyda Microsoft Fabric
- Defnyddio data gyda Microsoft Fabric
- Gweithredu warws data gyda Microsoft Fabric
- Gweithio gyda modelau semantig mewn Microsoft Fabric
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft sy’n gysylltiedig â Power BI a Data.
Addysgir y cymhwyster gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.