Skip to main content

Peiriannwr Data Cysylltiol Ardystiedig Microsoft (DP203) - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
TBC
Pedwar Diwrnod

Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae'r cymhwyster hwn yn dysgu dysgwyr sut i weithredu a rheoli llwythi gwaith peirianneg data ar Microsoft Azure, gan ddefnyddio gwasanaethau Azure megis Azure Synapse Analytics, Azure Data Lake Storage Gen2, Azure Stream Analytics, Azure Databricks a llawer mwy. eraill.

Mae'n ffocysu ar dasgau peirianneg data cyffredin fel trefnu piblinellau trosglwyddo a thrawsnewid data, defnyddio ffeiliau data mewn ‘llyn’ data, creu a llwytho warysau data perthynol, cipio a chydgrynhoi ffrydiau data yn ogystal a thracio asedau data.

Bydd dysgwyr yn cael derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft DP9203, er mwyn ennill statws achrededig.

Mae sefyll yr arholiad DP203 yn ofyniad o ran sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Gwybodaeth allweddol

Bydd dysgwyr yn meddu ar wybodaeth gynhwysfawr am feddalwedd prosesu data, gan gynnwys SQL, Python a Scala.

Bydd angen i ddysgwyr hefyd ddeall patrymau prosesu cyfochrog a phensaernïaeth data, yn ogystal â bod yn hapus i ddefnuddio’r canlynol yn hyderus i greu datrysiadau prosesu data:

  • Azure Data Factory
  • Azure Synapse Analytics
  • Azure Stream Analytics
  • Azure Event Hubs
  • Azure Data Lake Storage
  • Azure Databricks

Mae unedau'r cymhwyster yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i Beirianneg Data ar Azure
  • Cyflwyniad i Azure Lake Storage Gen2
  • Cyflwyniad i Azure Synapse Analytics
  • Defnyddio cronfa SQL Azure Synapse i ymholi am ffeiliau mewn ‘llyn data’.
  • Creu cronfa ddata llyn gan ddenfyddio Azure Synapse Analytics
  • Defnyddio Delta Lake ac Azure Synapse Analytics
  • Dadansoddi data mewn warws data perthynol a llawer mwy!

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Data ac Azure.

Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.

Off