Gwyddonydd Data Cyswllt Ardystiedig Microsoft Azure (DP100) - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i chi ddysgu sut i weithredu atebion dysgu peirianyddol yn y cwmwl gan ddefnyddio Azure Machine Learning.
Bydd y cwrs yn eich dysgu i fanteisio ar eich gwybodaeth bresennol o Python a dysgu peirianyddol i reoli’r dull o ddefnyddio a pharatoi data, rheoli hyfforddiant model a’i drefnu, yn ogystal â monitro atebion dysgu peirianyddol trwy Azure Machine Learning ac MLflow.
Bydd dysgwyr yn cael cymorth ar ôl y cwrs i sefyll arholiad Microsoft DP100 a chyflawni statws ardystiedig DP100.
Gwybodaeth allweddol
Anelir y cymhwyster hwn at wyddonwyr data sydd â gwybodaeth o Python a fframweithiau dysgu peirianyddol fel Scikit-Learn, PyTorch a Tensorflow, sydd am adeiladu a gweithredu atebion dysgu peirianyddol yn y cwmwl.
Fel ymgeisydd am yr ardystiad hwn, dylech fod â gwybodaeth a phrofiad mewn gwyddor data trwy ddefnyddio:
- Azure Machine Learning
- MLflow
Bydd y cwrs yn rhoi modd i’r ymgeiswyr ddangos y sgiliau canlynol:
- Dylunio ateb dysgu peirianyddol
- Archwilio a ffurfweddu gweithle Azure Machine Learning
- Arbrofi ag Azure Machine Learning
- Optimeiddio hyfforddiant model trwy Azure Machine Learning
- Rheoli ac adolygu modelau mewn Azure Machine Learning
- Trefnu a defnyddio modelau trwy Azure Machine Learning
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft sy’n gysylltiedig â data.
Addysgir y cymhwyster gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.