Mae’r Coleg yn dyrannu Bwrsariaeth bob blwyddyn i fyfyrwyr AU amser llawn sy’n astudio cyrsiau sydd wedi’u dilysu neu gyrsiau masnachfraint gan Sefydliadau Addysg Uwch (Prifysgol) neu fyfyrwyr sy’n astudio Tystysgrifau neu Ddiplomau Cenedlaethol Uwch Pearson. Mae hyn yn berthnasol bob blwyddyn o’r astudiaeth.
Ar gyfer cyrsiau amser llawn wedi’u dilysu neu raglenni masnachfraint gan brifysgolion neu gyrsiau Cenedlaethol Uwch a ddyfernir gan Pearson, bydd myfyrwyr yn derbyn bwrsariaeth o £1,000 y flwyddyn.
Rhennir y bwrsari yn ddau daliad cyfartal. Darperir y bwrsari gan Goleg Gŵyr Abertawe ac nid yw’n ddibynnol ar unrhyw bolisïau breiniol Sefydliadau Addysg Uwch e.e. Presenoldeb Gofynnol.
Os oes rhaid i fyfyrwyr amser llawn ail-wneud blwyddyn lawn (120 credyd) byddan nhw’n gymwys i gael bwrsari yn ystod y flwyddyn honno. Os yw myfyrwyr amser llawn yn ail-wneud modiwlau (llai na 120 credyd) bydd y bwrsari yn cael ei roi yn seiliedig ar ddwysedd astudio pro rata e.e. byddai myfyrwyr sy’n ail-wneud 60 credyd yn astudio ar ddwysedd o 50% a bydden nhw’n derbyn dau daliad o £250 y flwyddyn.
Bwrsari Cychwynnol– Bwrsari Cynnydd (Chwefror/Mawrth)
Er mwyn derbyn y taliad cyntaf rhaid i fyfyrwyr ddiwallu’r gofynion canlynol erbyn 31 Ionawr:
- Presenoldeb o 70%
- Cyflwyno pob aseiniad erbyn y dyddiad cywir*1
- Cyflwyno copi o setliad boddhaol o ffioedd / tystiolaeth o drefniadau Cyllid Myfyrwyr (e.e. llythyr grant) i dîm Cyllid y Coleg.
Os na ddiwallir y meini prawf uchod, ni fydd y taliad cychwynnol o £500 yn cael ei wneud.
*1 Pan fo myfyriwr yn cyflwyno cais i beidio â chyflwyno gwaith oherwydd amgylchiadau esgusodol, bydd y bwrsari yn cael ei rhoi i’r unigolyn os caniateir y cais hynny. Bydd dyddiad cau newydd ar gyfer gwaith yr unigolyn yn cael ei drefnu. Mae hyn yn debygol o oedi’r broses o ddosbarthu’r bwrsari.
Bwrsari Diwedd Blwyddyn – Bwrsari Cwblhau (Mai/Mehefin)
Er mwyn derbyn yr ail fwrsari rhaid i fyfyrwyr ddiwallu’r gofynion canlynol:
Cyrsiau Blwyddyn
- Cadarnhad gan y bwrdd arholi terfynol (neu fwrdd cyfatebol) eich bod wedi derbyn Dyfarniad cyfan y cwrs
*os cadarnheir eich dyfarniad gan fwrdd arholi hwyr e.e. bwrdd ailsefyll, bydd taliad y bwrsari yn cael ei oedi.
Blwyddyn Gyntaf Cyrsiau Dwy Flynedd
- Cadarnhad gan y bwrdd arholi terfynol (neu fwrdd cyfatebol) eich bod wedi cyflawni’r gofynion ar gyfer symud ymlaen i ail flwyddyn y cwrs
*Os cadarnheir yr uchod gan fwrdd arholi hwyr e.e. bwrdd ailsefyll, bydd taliad y bwrsari yn cael ei oedi.
Ail Flwyddyn Cyrsiau Dwy Flynedd
- Cadarnhad gan y bwrdd arholi terfynol (neu fwrdd cyfatebol) eich bod wedi cwblhau’r cwrs
*Os cadarnheir hyn gan fwrdd arholi hwyr e.e. bwrdd ailsefyll, bydd taliad y bwrsari yn cael ei oedi.
Bydd yr un meini prawf yn berthnasol i gyrsiau sy’n hirach na dwy flynedd. Ar hyn o bryd does dim cyrsiau yn cael eu cyflwyno dros gyfnod sy’n hirach na dwy flynedd.