Skip to main content

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw rhieni a gofalwyr o ran helpu pobl ifanc i symud o’r ysgol i’r coleg, a’u cefnogi yn ystod eu taith.

Ein nod yw rhoi amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau newydd i bob person ifanc a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu cam nesaf, boed hwnnw yn ddilyniant ym myd addysg neu gyflogaeth.

Mae astudio yn y Coleg yn rhoi’r annibyniaeth sydd ei hangen ar eich plentyn ar gyfer y brifysgol a byd gwaith, ac rydym yn darparu cymorth pwrpasol i’w helpu i gyflawni eu nodau a llwyddo. Yn ogystal â’r lefel uchel o gymorth gan gynnwys ein rhaglen Anrhydeddau CGA, mae ein llwybrau hefyd yn cynnwys profiad gwaith a sgiliau cyflogaeth.

Ein partneriaieth gyda chi

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw’r bartneriaeth rhyngddom ni a chi o ran sicrhau bod eich plentyn yn cyrraedd ei botensial llawn yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan. Dyna pam rydym yn:

  • Cyfathrebu’n rheolaidd â chi i roi’r diweddaraf i chi am gynnydd eich plentyn
  • Rhoi adroddiadau cynnydd i chi ar berfformiad, dyddiadau cau gwaith cwrs, arholiadau a phresenoldeb
  • Eich gwahodd i nosweithiau rhieni rheolaidd ac yn rhoi cyfle i chi gwrdd â’n tiwtoriaid
  • Cyflogi tîm ymroddedig o staff sy’n cynnig cymorth dysgu i alluogi myfyrwyr i lwyddo
  • Rhagweithiol o ran cynnig cymorth a llwybrau addysgol amrywiol gan alluogi’ch plentyn i symud ymlaen i addysg uwch, cyflogaeth neu brentisiaeth.

Nosweithiau rhieni

Rydym yn cynnal nosweithiau rhieni i rieni a gofalwyr myfyrwyr sydd eisoes yn mynychu Coleg Gŵyr Abertawe. Cewch ragor o wybodaeth yn ystod y flwyddyn academaidd.

Adrodd absenoldeb

Gwybodaeth am adrodd absenoldeb a’r hyn sydd ei angen arnoch er mwyn ei gofnodi.

Adrodd absenoldeb

Adroddiadau dysgwyr

Gall rhieni a gwarcheidwaid gyrchu e-CDU dysgwyr, ar ôl i’r dysgwyr roi eu caniatâd, i weld cyrsiau, presenoldeb, adroddiadau, canlyniadau WEST ac amserlenni.

Gweld adroddiadau

Gwybodaeth am arholiadau

Beth i’w ddisgwyl yn y cyfnod cyn yr arholiadau, ac amserlenni arholiadau.

Gweld gwybodaeth am arholiadau