Arferion Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol (CMI) Lefel 7 - Cymwysterau
Trosolwg
Bwriedir y cwrs Arferion Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu arferion rheolaeth ac arweinyddiaeth strategol, ac sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau i lywio gweithgareddau busnes mewn rôl rheolaeth ac arweinyddiaeth uwch, ranbarthol, arbenigol, cyfarwyddwr neu brif swyddog gweithredol.
Mae’r cymhwyster ar gael fel Dyfarniad cryno, Tystysgrif ehangach neu fel Diploma cynhwysfawr.
Gwybodaeth allweddol
Mae’r cymhwysyter yn cynnwys amrywiaeth o unedau, sy’n adlewyrchu’r tasgau a’r gweithgareddau a ofynnir gan reolwyr mewn rolau megis uwch reolwyr, rheolwyr rhanbarthol, yn ogystal â rheolwyr arbenigol sy’n atebol i uwch reolwr neu berchennog busnes.
Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Gall yr addysgu fod o bell neu gall y tiwtor/aseswr gwrdd â’r dysgwr bob 4-6 wythnos mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r aseswr.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddai CMI yn argymell y cymhwyster canlynol:
- Dulliau Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles
Bydd gan ddysgwyr fynediad i Thrive, llyfrgell ar-lein gynhwysfawr yn rhad ac am ddim sy’n cynnwys deunydd cyfredol sy’n mynd i’r afael ag arferion rheoli arferion cyfredol ac yn cefnogi astudio i unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau.