Skip to main content

Goleuadau, camera, amdani!

Aeth myfyrwyr Celfyddydau Creadigol Coleg Gŵyr Abertawe i ddangosiad cyntaf ffilm arbennig iawn yn ddiweddar.

Cawsant eu gwahodd i Ganolfan y Celfyddydau Pontardawe i wylio ffilm y gwnaethant helpu i’w gwneud – diolch i It’s My Shout, cwmni cynhyrchu ffilmiau annibynnol a chynllun hyfforddi yng Nghymru.

Mae It’s My Shout, sy’n gwneud ffilmiau byrion i BBC Cymru ac S4C, yn cynnig cyfle gwerthfawr i bobl ifanc gydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae’n rhoi modd iddynt gael cipolwg ar y diwydiannau creadigol boed hynny yn oleuadau, sain, cynhyrchu cyfryngau, gwallt a cholur, neu actio.

Cymerodd rhyw 60 o’n dysgwyr talentog ran yn y cynhyrchiad hwn, gan ennill profiad ymarferol gwych.  

“Roedd yn gyfle anhygoel i’n myfyrwyr gymryd rhan mewn prosiect ffilm cyffrous a chael profiad byd go iawn, magu hyder ac mae’n rhywbeth bendigedig i’w roi ar eu CVs a’u datganiadau personol,” meddai’r Rheolwr Maes Dysgu, Liz Edwards. “Mae’r diwydiannau creadigol mor bwysig i Gymru ac rydyn ni’n falch dros ben o fod yn rhan o brosiect mor rhyfeddol.”