Skip to main content

Aseswr Lefel 3 CAVA – Cymwysterau

GCS Training
Lefel 3
Llys Jiwbilî
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae cymwysterau aseswr CAVA yn addas i’r rhai sy’n asesu cymwysterau galwedigaethol ac sydd angen cymhwyster cydnabyddedig fel aseswr cymwysedig.

Gwybodaeth allweddol

Mae’n ofynnol bod dysgwyr yn alwedigaethol gymwys a phrofiadol yn y sector maen nhw’n ei asesu, a bod mewn rôl swydd aseswr.

Bydd angen cael cyfweliad gyda thiwtor y cwrs cyn y cwrs i sicrhau bod dysgwyr yn gallu bodloni canlyniadau dysgu’r cymhwyster.

Mae dwy ran i’r cymhwyster:

Rhan un

Bydd dysgwyr yn mynd i gyfanswm o dri gweithdy dros dri mis, er mwyn symud ymlaen trwy’r canlyniadau dysgu ar gyfer elfen wybodaeth y cymhwyster. Bydd y rhan hon yn cael ei hasesu’n bennaf trwy lyfrau gwaith neu draethodau.

Rhan dau

Bydd y rhan hon yn cynnwys asesu dysgwyr, lle bydd y tiwtor yn trefnu cyfarfodydd un-i-un yn y gweithle i wirio cynnydd. Bydd yr elfen hon yn cynnwys arsylwi’r aseswr wrth weithio gyda myfyrwyr yn y gweithle.

Unedau gorfodol

  • Deall egwyddorion ac arferion asesu
  • Asesu cymhwysedd galwedigaethol yn yr amgylchedd gwaith
  • Asesu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth galwedigaethol

Sicrhau Ansawdd Mewnol Lefel 4 - Dyfarniad

Ar ddiwedd y cymhwyster, caiff y portffolio o dystiolaeth ei gyflwyno ar gyfer asesu a sicrhau ansawdd.