Skip to main content

DA ac Offer Digidol am ddim ar gyfer Addysg

Rhan-amser, GCS Training
Llys Jiwbilî
Pedwar awr

Trosolwg

Bydd y sesiwn yn archwilio offer AI AM DDIM a all fod yn ddefnyddiol ym maes addysg. Byddwch yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio’r offer i greu cynnwys, creu profiadau, syniadau a gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr, ateb ymholiadau, ychwanegu cwestiynau at fideos YouTube, datrys cwestiynau mathemateg, creu cwestiynau o destunau, aralleirio gwaith a llawer mwy. Byddwn hefyd yn archwilio offer a fydd yn helpu dysgwyr i greu nodiadau o fideos, ffyrdd o’u paratoi ar gyfer arholiadau a llawer mwy.  Gyda chymaint o offer ar gael, anodd yw gwybod ble i ddechrau. Bydd y gweithdy hwn yn eich galluogi i ddefnyddio’r offer hyn mewn amgylchedd lle gallwch gydweithio ag eraill, gofyn cwestiynau a dysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar AI!

Bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal Diwrnod Darganfod Digidol yn ymwneud ag AI ac Offer Digidol Am Ddim ar gyfer Dysgu ac Addysgu ar ddydd Llun 15 Rhagfyr, yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

I ddysgu rhagor am y Diwrnod Darganfod Digidol neu i gadw lle cliciwch yma. 

Gwybodaeth allweddol

Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ar lefel sylfaenol.

Darpariaeth wyneb yn wyneb ar gampws Llys Jiwbilî.

Gweithdai digidol eraill a ddarperir gan Goleg Gwyr Abertawe.

Off