Noson Agored Addysg Oedolion - Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2024 Rhagor o wybodaeth
Addysg Oedolion
Yr hyn rydym yn ei gynnig i oedolion
P’un ai ydych yn gobeithio rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, bydd gennym gwrs addas i chi yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Barod am newid? Cyrsiau hyblyg, rhan-amser i weddu i’ch bywyd a’ch nodau. Darganfod y cyrsiau
Dosbarthiadau nos a rhan-amser
Rydym yn sylweddoli bod gan oedolion sy’n ddysgwyr lawer o alwadau ar eu hamser ac, am y rheswm hwn, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyblyg a byr.
Mynediad i Addysg Uwch
Mae ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn addas i’r rhai sy’n 19 oed a hŷn a byddan nhw’n eich paratoi ar gyfer mynediad i addysg uwch.
Addysg Uwch
Astudiwch yn nes at eich cartref! Mae gyda ni gyrsiau addysg uwch wedi’u hachredu gan brifysgolion gyda darpariaeth hyblyg, costau is a llawer o gymorth.
Prentisiaethau
Earn while you learn with an apprenticeship. Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r prif ddarparwyr Prentisiaethau yng Nghymru.
Addysg Sylfaenol i Oedolion
Dewch i wella eich sgiliau Saesneg, Mathemateg a Chyfrifiadura. Magwch hyder ar gyfer gwaith, addysg bellach, neu ddatblygiad personol.
Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)
Rydym yn cynnig dosbarthiadau Saesneg am ddim (yn amodol ar gymhwystra) i bobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.
Cyrsiau am ddim i oedolion (Sgiliau ar gyfer Abertawe)
Darganfod a gwella eich sgiliau ar draws amrywiaeth o bynciau gyda'n cyrsiau byr am ddim.
Cefnogi Tata Steel
Rydym yn ymrwymedig i gefnogi unigolion sy’n wynebu heriau proffesiynol trwy gynnig cyfleoedd ac atebion wedi’u teilwra. Rydym yn cydnabod yr heriau presennol y mae Tata Steel yn eu hwynebu, ac rydym yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd posib.
Eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau
Fel myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, bydd gennych fynediad llawn at ein staff profiadol sy’n gallu rhoi cyngor i chi ar gyrsiau, gyrfaoedd, cyflogadwyedd, materion personol neu faterion ariannol.
Rydym hefyd yn cynnig cymorth arbenigol, megis help i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, arweiniad ar gyllid, adnoddau i ddatblygu’ch hyfedredd yn yr iaith Gymraeg, a mwy.