P’un ai ydych yn gobeithio rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, bydd gennym gwrs addas i chi yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Rydym yn sylweddoli bod gan oedolion sy’n ddysgwyr lawer o alwadau ar eu hamser ac, am y rheswm hwn, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyblyg a byr. Porwch drwy’r cyrsiau i oedolion isod neu ewch i’r dudalen addysg oedolion am ragor o wybodaeth.