Skip to main content

Llywodraethu

Mae Bwrdd y Gorfforaeth, neu’r Corff Llywodraethol, yn chwarae rhan bwysig iawn wrth osod cyfeiriad strategol a goruchwylio cyflwr ariannol y Coleg.

Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am gyfrifoldebau Bwrdd, ynghyd â’i aelodau a gwybodaeth am sut mae'n gweithredu yn yr Offeryn a'r Erthyglau Llywodraethu.

Mae’r Bwrdd yn cynnwys amrywiaeth eang o aelodau, gan gynnwys unigolion o fusnesau lleol a sefydliadau addysg, i aelodau o’r gymuned sy’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau gwahanol. Yn gystal â’r aelodau hyn, mae’r Prif Weithredwr, y Pennaeth, dau fyfyriwr a dau aelod o staff yn cyfrannu eu barn.  

Mae'r Bwrdd yn cyfarfod o leiaf chwe gwaith y flwyddyn ac mae’n derbyn cefnogaeth gan sawl pwyllgor cysylltiedig sy'n canolbwyntio ar feysydd penodol megis Archwilio, Cwricwlwm ac Ansawdd, Cyllid, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, Profiad y Dysgwr, Cydnabyddiaeth a Chwilio a Llywodraethu.

Gyda’i gilydd, maent yn gweithio’n galed i sicrhau bod y Coleg yn parhau i ffynnu er mwyn diwallu anghenion ein myfyrwyr a’r gymuned.

Ian Price OBE – Cadeirydd

Ian Price OBE

Mae Ian Price, a enillodd OBE yn ddiweddar yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin am ei wasanaethau rhagorol i fyd busnes ac elusen, wedi cael ei benodi yn Gadeirydd y Llywodraethau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.  

Ac yntau’n dod â degawdau o brofiad arweinyddiaeth ac angerdd am addysg a gwasanaeth cymunedol, mae Ian yn barod i arwain y Coleg i bennod newydd gyffrous. Mae Ian yn olynu Meirion Howells, sy’n camu i lawr ar ôl pedair blynedd.  

Daeth cyfnod dylanwadol Ian fel Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yng Nghymru i ben ym mis Rhagfyr 2024, yn dilyn bron dau ddegawd gyda’r sefydliad, gan gynnwys wyth mlynedd fel Cyfarwyddwr a chyn hynny, fel Dirprwy Gyfarwyddwr ers 2005. Yn y rôl hon, ef oedd y cyswllt hanfodol rhwng busnesau Cymru a llywodraeth, gan ymgysylltu’n rheolaidd â Phrif Weinidog Cymru, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac arweinwyr blaenllaw ym myd diwydiant i eirioli dros dwf economaidd ac addysg alwedigaethol.

Ymestynnodd arweinyddiaeth Ian y tu hwnt i’r CBI. Mae wedi cadeirio Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru, gan hyrwyddo pwysigrwydd prentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol fel ategiad i addysg prifysgol. Mae ei ymrwymiad i bobl ifanc yn parhau trwy ei rôl newydd fel Cadeirydd y Llywodraethwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a’i gadeiryddiaeth barhaus o’r elusen ieuenctid Vibe Youth.

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Fwrdd y Gorfforaeth neu am faterion llywodraethu neu os hoffech fod yn aelod o’r Bwrdd, cysylltwch ag Amanda Kirk, Clerc y Gorfforaeth amanda.kirk@gcs.ac.uk 

Hysbysiad Preifatrwydd Coleg Gŵyr Abertawe

Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer aelodau’r Bwrdd

Pwyllgorau

Cyfarfodydd

Offeryn ac Erthyglau Llywodraeth