Peirianneg
Peirianneg yw un o’r sectorau diwydiant sy’n tyfu gyflymaf yn y byd ac mae’r cyfleoedd mae’n eu cynnig yn ddiderfyn! Y diffiniad o beirianneg yw cymhwyso gwyddoniaeth a mathemateg i ddatrys problemau.
Mae cyfleoedd i fyfyrwyr sydd â meddylfryd academaidd yn ogystal â’r rhai sy’n fwy dawnus yn ymarferol y mae’n well ganddynt waith ymarferol.
Llwybrau gyrfa
- Ar ôl ysgol, gallwch ddewis disgyblaeth i’w hastudio yn y Coleg, ac arbenigo yn y ddisgyblaeth honno pan fyddwch yn symud ymlaen i addysg uwch neu brentisiaeth.
Sicrhau eich dyfodol
Mae gennym y cyfleoedd dilyniant canlynol yn y Coleg:
- HNC/HND mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig
- HNC/HND mewn Peirianneg Fecanyddol
- HNC mewn Rheolaeth Adeiladu
Fel arall, gallech chi symud ymlaen i’r brifysgol neu gael cyflogaeth yn y diwydiant.
Chwilio am gwrs Peirianneg
Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch Lefel 3 - Diploma Estynedig
Lefel 3 Pearson
Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch: Chwaraeon Moduro Lefel 3 - Diploma
Lefel 3 BTEC Subsidiary Diploma / Diploma
Safon Uwch Electroneg
Lefel 3 A Level
Technoleg Peirianneg EAL NVQ PEO
Lefel 2 EAL
Featured news
Tîm Peirianneg Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill Dyluniad Gorau yn Krazy Races
Roedd canol dinas Abertawe yn byrlymu o gyffro wrth i Krazy Races gymryd drosodd y strydoedd. Hyn oedd ras bocs sebon gyntaf Abertawe, lle gwelwyd cyfranogion mewn gwisg ffansi feiddgar ac yn chwyrlïo o gwmpas strydoedd y ddinas mewn certi a wnaed gartref.
Fe wnaeth y myfyriwr peirianneg Joshua Parsons, capten y tîm, roi gwybodaeth werthfawr am ymdrechion y tîm wrth adeiladu eu cart a’u gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y digwyddiad: "O fewn y ddau fis diwethaf, rydyn ni fel tîm wedi llwyddo i gynhyrchu cart bocs sebon ac rydyn ni’n credu y bydd yn hynod gystadleuol ac yn ddifyr iawn i’r dorf."
Roedd perfformiad y tîm ar y diwrnod yn rhagorol, gan ddod yn 7fed yn y ras ac ennill ‘Dyluniad Cert Gorau Krazy’.