Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch: Chwaraeon Moduro Lefel 3 - Diploma
Trosolwg
Bwriedir ein cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro Uwch Lefel 3 i’r rhai sydd â diddordeb brwd mewn chwaraeon moduro a pheirianneg sydd am ddilyn gyrfa ym myd bywiog chwaraeon moduro.
Mae’r rhaglen gymhwysfawr hon, ar y cyd ag Adran Peirianneg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad ymarferol er mwyn ffynnu yn y diwydiant chwaraeon moduro hynod gystadleuol.
- Modiwlau
- Trawsyriant
- Lluniadau peirianneg
- Gwyddor cerbydau a mathemateg
- Chwistrelliad petrol
- Offer trydanol
- Llywio
- Hongiad
- Brecio
- Iechyd a diogelwch.
Gwybodaeth allweddol
- Gradd C mewn cymwysterau TGAU priodol gan gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith a Gwyddoniaeth
- Byddwn yn ystyried dilyniant o gyrsiau modurol lefel ganolradd ochr yn ochr â chymwysterau TGAU neu gymwysterau cyfwerth Sgiliau Hanfodol Cymru.
Addysgir gwybodaeth a sgiliau trwy sesiynau yn yr ystafell ddosbarth lle cewch eich annog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr a hefyd mewn gweithdai modurol a chwaraeon moduro realistig trwy ddefnyddio arddangosiadau ymarferol a thasgau gweithio realistig.
Asesir dysgwyr trwy ddefnyddio datblygiad aseiniadau yn bennaf, ac ategir hyn yn aml gan weithgareddau ymarferol wedi’u cofnodi a wneir yn y ddau weithdy y manylir arnynt uchod.
Trwy ddefnyddio’r pwyntiau UCAS cysylltiedig, prif nod y cwrs yw helpu dysgwyr i symud ymlaen i raglenni Addysg Uwch cysylltiedig mewn prifysgolion. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Peirianneg Cerbydau Modur (BEng, HND)
- Peirianneg Chwaraeon Moduro (BEng, HND)
- Peirianneg Beiciau Modur (BEng).
Mae’r eitemau canlynol yn hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs:
- Cyfarpar diogelu personol sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch
- Prydeinig Nwyddau swyddfa amrywiol
- Trwydded pecyn dysgu electronig Electude.