Skip to main content

Arolygu a Phrofi Lefel 3 – Cwrs Cyfunol

GCS Training
Lefel 3
EAL
Tycoch
Chwe diwrnod neu 12 wythnos

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys EAL 4337 Gwirio ac Ardystio Cychwynnol Gosodiadau Trydanol, yn ogystal ag EAL 4338 Arolygu, Profi ac Ardystio Cyfnodol Gosodiadau Trydanol. Mae’n gwrs cyfunol lle bydd ymgeiswyr yn cael y paratoad angenrheidiol i brofi, arolygu ac ardystio gosodiadau trydanol.

Mae’r cwrs yn bennaf yn addas i drydanwyr cymwysedig, prentisiaid trydanol yn eu blwyddyn derfynol neu weithwyr profiadol sy’n gweithio tuag at eu tystysgrif EWA. 

Gwybodaeth allweddol

Disgwylir i ymgeiswyr fod â gwybodaeth weithredol a thystysgrif yn 18fed Argraffiad y Rheoliadau Trydanol.

Bydd angen llungopi arnom o’ch tystysgrif 18fed Argraffiad, ac o’ch Tystysgrif Lefel 2 neu 3 mewn Technoleg Electrodechnegol (233). Neu, rhaid i chi gynhyrchu tystiolaeth eich bod yn gweithio tuag at eich cymhwyster Gweithiwr Profiadol Electrodechnegol Lefel 3 cyn dilyn y cwrs.

Mae mynediad yn amodol ar gyfweliad. 

Byddwch yn dilyn y cwrs am chwe diwrnod, neu am 12 wythnos fel dosbarth nos.

Bydd asesiadau yn cynnwys arholiadau ar-lein ac asesiadau ymarferol. 

City & Guilds Lefel 4 Dylunio a Gwirio Gosodiadau Trydanol

AM2E i Weithwyr Profiadol

Gofynnol ar gyfer Cerdyn Aur ECS

Sylwch:

Hyd at 1 Hydref 2026 – Rhaid i ymgeiswyr brynu copi o BS7671 18fed Argraffiad ‘On-side Guidance, Guidance Note 3’ i ddilyn y cwrs hwn.

Ar ôl 1 Hydref 2026 - Rhaid i ymgeiswyr brynu copi o ‘2026 The Guidance Note 3 Inspection and Testing BS7671 2018’ i ddilyn y cwrs hwn.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.