Rheoli Straen yn y Gwaith (NEBOSH) Lefel 3 - Cymhwyster
Ffôn 01792 284400 E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk
Trosolwg
Nod y cwrs hwn yw helpu dysgwyr i nodi a lleihau straen yn y gwaith er mwyn creu gweithle positif ac iachach.
Bydd y cymhwyster yn eich galluogi i ddeall:
- Yr achos fusnes mewn perthynas â mynd i’r afael â straen a materion iechyd meddwl cysylltiedig
- Y gofynion cyfreithiol, rolau a chyfrifoldebau ar gyfer rheoli straen yn y gwaith
- Sut i adnabod arwyddion ac effeithiau straen yn y gwaith
- Sut i adnabod y chwe agwedd ar ddyluniad y gweithle a all achosi straen yn y gweithle a salwch meddwl Sut i weithredu Safonau Rheoli HSE i nodi ac asesu risgiau straen sy’n gysylltiedig â gwaith
Gwybodaeth allweddol
Bydd darpariaeth y cwrs yn cael ei gadarnhau ar ôl i chi fwcio. Efallai y bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno yn Llys Jiwbilî neu Ysgol Fusnes Sgeti.
Bydd y cymhwyster yn cael ei asesu trwy brawf asesu amlddewis yn yr ystafell ddosbarth.
Os oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol, bydd angen o leiaf 6 wythnos o rybudd arnom i roi’r prosesau gofynnol ar waith.
Os ydych yn bwcio o fewn y cyfnod hwn o chwe wythnos a bod angen cymorth ychwanegol ar ddysgwr, a fyddech cystal ag ystyried bwcio dyddiad diweddarach neu rhowch wybod i ni wrth i chi fwcio.