Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd
Trosolwg
Mae City & Guilds Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd yn ceisio cynorthwyo pobl ifanc trwy wella eu rhagolygon o gael gwaith a rhoi’r sgiliau iddynt sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
Byddwn ni’n cynorthwyo dysgwyr i chwilio am gyflogaeth addas a gwneud cais amdani a’u paratoi ar gyfer astudiaethau pellach mewn maes o’u dewis.
Bydd y cwrs yn cwmpasu unedau megis:
• Cynllunio ar gyfer Dilyniant
• Cynllunio Gyrfa a Gwneud Ceisiadau
• Creu Argraff Bositif
• Gwasanaeth Cwsmeriaid
• Rheoli Cyllid Personol
• Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle
• Menter a Gweithio fel Tîm
Gwybodaeth allweddol
Yn ddelfrydol, byddwch wedi cael o leiaf bedair gradd D-G ar lefel TGAU, ond byddwch yn cael cyfle i weithio tuag at wella graddau Saesneg a Mathemateg.
Gallwch ymuno â’r rhaglen hon ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd a bydd y cymhwyster a gyflawnir yn seiliedig ar unedau wedi’u cwblhau.
Byddwn ni’n ceisio eich helpu i ddod o hyd i gyflogaeth, neu gallech wneud cais am gwrs amser llawn pellach yn y Coleg.
Nid yw’r cwrs hwn ond ar gael i bobl ifanc a fydd yn 19 oed neu iau ar 30 Mehefin 2022.
Angen cyfweliad.