Mae saith myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau chwaraeon ar gyfer y flwyddyn academaidd 2015/2016.
Y myfyrwyr yw:
- Rygbi - James Ratti, sy’n astudio Safon Uwch mewn Mathemateg, Addysg Gorfforol ac Economeg
- Pêl-rwyd - Paige Murphy, sy’n astudio Safon Uwch mewn Mathemateg, Cemeg a Bioleg
- Hoci - Sarah-Jayne Thorburn, sy’n astudio Safon Uwch mewn Mathemateg, Addysg Gorfforol, Ffrangeg ac Economeg, a Rhian Lewis, sy’n astudio Safon Uwch mewn Hanes, Addysg Gorfforol a Llenyddiaeth Saesneg
- Criced - Tomas Davies, sy'n astudio Safon Uwch Bioleg, Cemeg a Mathemateg, a Jack Todd, sy'n dilyn cwrs Lefel 3 BTEC Diploma mewn Chwaraeon
- Pêl-droed - Luke Harries, sy’n astudio BTEC Diploma Lefel 3 mewn Chwaraeon
“Mae ein rhaglen ysgoloriaeth chwaraeon yn rhoi cymorth ariannol a chyfannol i fyfyrwyr sydd wedi dangos gallu eithriadol yn un o gampau ein hacademïau dynodedig,” dywedodd y cydlynydd Marc O’Kelly. “Yn gyfnewid am hyn, rydyn ni’n disgwyl i’n myfyrwyr ysgoloriaeth weithredu fel ‘modelau rôl’ ymysg eu cyfoedion a chefnogi hyfforddwyr yr academïau i ddarparu rhaglen chwaraeon o ansawdd eithriadol.”
Llun: Nikkila Thomas