Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 3 - Diploma
Trosolwg
Bwriad y cwrs blwyddyn cynhwysfawr hwn, sef Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Lefel 3, yw rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o’r systemau trydanol a mecanyddol a ddefnyddir mewn cerbydau modur. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau mewn gweithredu cerbydau, cynnal a chadw systemau, diagnosteg ac atgyweirio.
Modiwlau:
- Iechyd, diogelwch a chadw tŷ da yn yr amgylchedd modurol
- Cefnogaeth ar gyfer rolau swyddi yn yr amgylchedd gwaith modurol
- Defnyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur a ddefnyddir yn yr amgylchedd modurol
- Canfod a chywiro namau injans cerbydau ysgafn
- Canfod a chywiro namau siasi cerbydau ysgafn
- Canfod a chywiro systemau trydanol ategol cerbydau ysgafn
- Canfod a chywiro namau trawsyrru a llinell yriant cerbydau ysgafn
- Canfod a chywiro cydrannau trydanol ategol.
Gwybodaeth allweddol
Cwblhau’n llwyddiannus ein cymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau.
Mae ein cwrs yn rhoi sylw i arddangosiadau ymarferol a thasgau ymarferol i ddatblygu eich sgiliau. Mae sesiynau ystafell ddosbarth yn darparu gwybodaeth ddamcaniaethol, a gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr i’ch annog i gymryd rhan. Byddwch yn dangos eich sgiliau trwy senarios gwaith realistig.
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur (Lefel 3) Cyflogaeth yn y diwydiant neu astudio ar gyfer cymhwyster HND mewn pwnc cysylltiedig.
Mae’r eitemau canlynol yn hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs:
- Cyfarpar diogelu personol sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch Prydeinig
- Deunydd ysgrifennu amrywiol
- Trwydded pecyn dysgu electronig Electude.