Safon Uwch Mathemateg
Trosolwg
Yn y cwrs hwn, byddwch yn cymryd rhan mewn astudiaeth gynhwysfawr o bynciau amrywiol. Bydd yr elfen Mathemateg Bur yn eich cyflwyno i geometreg, algebra a ffwythiannau, calcwlws a dadansoddi rhifiadol. Yn yr elfen Ystadegau byddwch yn astudio samplu ystadegol, cyflwyno a dehongli data, tebygolrwydd a dosraniadau ystadegol. Yn olaf, bydd Mecaneg yn ymdrin â chinemateg, deddfau Newton, fectorau, momentau, a hafaliadau gwahaniaethol.
Amcanion y Cwrs:
- Datblygu dealltwriaeth ddofn o wahanol feysydd mathemateg a sut maen nhw’n perthyn i’w gilydd
- Ehangu eich sgiliau a thechnegau mathemategol, gan eich galluogi i ddatrys problemau mwy cymhleth a distrwythur
- Gwella eich galluoedd rhesymu rhesymegol, gan ganiatáu i chi nodi rhesymu anghywir, cyffredinoli, a llunio prawf mathemategol
- Ennill sgiliau sy’n berthnasol i archwilio a dadansoddi setiau data mawr, a dehongli data a gyflwynir ar ffurf gryno neu graffigol.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg laith
- Gan gynnwys A mewn TGAU Mathemateg o’r Haen Uwch (byddwn yn ystyried gradd B o’r haen uwch)
- 4.5 awr o oriau darlithio yr wythnos
- Gwaith cartref wythnosol
- Asesiad dosbarth bob hanner tymor
- UG Uned 1: Mathemateg Bur A (2 awr 30 munud)
- UG Uned 2: Mathemateg Gymhwysol A (1 awr 45 munud)
- U2 Uned 3: Mathemateg Bur B (2 awr 30 munud)
- U2 Uned 4: Mathemateg Gymhwysol B (1 awr 45 munud)
Gyda Safon Uwch Mathemateg, gallech fynd ymlaen i yrfaoedd llewyrchus mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys:
- Dadansoddwr ariannol
- Rhaglennydd cyfrifiadurol
- Gwyddonydd meddygol
- Actiwari
- Datblygwr meddalwedd
- Economydd
- Dadansoddwr data neu ymchwil
- Cyfrifydd
- Athro/Athrawes
Mae’r set sgiliau amlbwrpas a’r galluoedd datrys problemau a ddatblygir trwy Safon Uwch Mathemateg yn darparu sylfaen gref ar gyfer llwyddiant yn y proffesiynau amrywiol a diddorol hyn. P’un a ydych yn dewis mentro i faes cyllid, technoleg, gofal iechyd, addysg, neu feysydd eraill, mae’r posibiliadau’n eang ac yn addawol gyda Safon Uwch Mathemateg.
Bydd angen arnoch gyfrifiannell Peirianneg Uwch/Wyddonol CASIO FX-991EX. Gellir prynu’r rhain o’r Llyfrgell ar Gampws Gorseinon.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i sefyll arholiadau Heriau UKMT, Sêr Mathemateg a STEP/MAT.