Safon Uwch Cyfrifiadureg
Trosolwg
Mae’r cwrs yn cydnabod pwysigrwydd cyfrifiadureg yn y byd sydd ohoni. I fod yn rhan o’r datblygiad cyffrous hwn bydd angen dealltwriaeth arnoch o’r meysydd technegol a gwyddonol sy’n ei gwneud yn bosibl. Mae’r cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o egwyddorion a chysyniadau sylfaenol mewn cyfrifiadureg.
Mae’r cwrs yn pwysleisio datblygiad meddwl beirniadol, datrys problemau creadigol, a sgiliau dadansoddi, yn ogystal â’r gallu i weld cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar gyfrifiadureg.
Mae’n rhoi modd i chi ddatblygu sgiliau rhaglennu gan ddefnyddio ieithoedd gweledol modern. Mae diddordeb brwd a brwdfrydedd dros fod eisiau ysgrifennu eich rhaglenni pwrpasol eich hun yn hanfodol ac mae diddordeb mewn caledwedd a meddalwedd yn angenrheidiol gan fod y gwaith theori yn cynnwys llawer o agweddau ar y pynciau hyn.
Datblygir sgiliau mathemategol sy’n berthnasol i gyfrifiadureg a byddwch yn archwilio goblygiadau unigol, cymdeithasol, cyfreithiol a moesegol cyfrifiadureg.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Mathemateg (B), Saesneg (C)
- Mae TGAU Cyfrifiadureg / Technoleg Ddigidol yn fanteisiol ond nid yw’n orfodol
Ym Mlwyddyn 1 (UG), byddwch yn astudio dwy uned (40% o Safon Uwch)
- UNED 1: Hanfodion Cyfrifiadureg (25%)
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr
62.5% o gymhwyster UG) - UNED 2: Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau (15%)
Arholiad ar y sgrin: 2 awr
(37.5% o gymhwyster UG)
Ym Mlwyddyn 2 (Uwch), byddwch yn astudio tair uned (60% o Safon Uwch)
- UNED 3: Rhaglennu a Datblygu Systemau (20%)
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr - UNED 4: Saernïaeth Gyfrifiadurol, Data, Cyfathrebu a Chymwysiadau (20%)
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr
20% o’r cymhwyster - UNED 5: Ateb wedi’i Raglennu i Broblem (20%)
Asesiad di-arholiad
Mae maes deinamig cyfrifiadureg yn cyflwyno amrywiaeth eang o lwybrau addawol ar gyfer datblygiad gyrfa a thwf personol.
Os ydych yn bwriadu datblygu eich addysg, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis astudio cyfrifiadureg yn y brifysgol, tra bod eraill yn ei defnyddio fel sylfaen resymegol gadarn i astudio pynciau eraill. Mae myfyrwyr wedi sicrhau lleoedd i astudio’r pwnc hwn mewn llawer o brifysgolion Russell Group nodedig.
Os nad yw’r brifysgol yn apelio atoch, gall y cwrs hwn agor amrywiaeth eang o gyfleoedd cyflogaeth a phrentisiaeth mewn Datblygu Meddalwedd, Datblygu Gwefan, Dadansoddi Systemau, Dadansoddi Data, Dylunio Rhwydwaith a Dadansoddwr Seiberddiogelwch i enwi dim ond ychydig.
- Cyfrifiadur personol cartref/gliniadur sy’n gallu rhedeg Windows 10/11 a Microsoft Visual Studio 2022 (Fersiwn Cymunedol - Am Ddim)
- Gallwch wneud y rhan fwyaf o waith teipio gan ddefnyddio Microsoft Word a Microsoft PowerPoint. Bydd hwn ar gael am ddim trwy Office 365 felly nid oes angen prynu meddalwedd ar gyfer hyn.
- Os ydych yn defnyddio Mac, efallai y bydd angen meddalwedd ychwanegol i redeg y feddalwedd angenrheidiol