Cyflwyniad i Arddio
Trosolwg
Ymuna â’n Cwrs Garddio 10 wythnos i Ddechreuwyr, a fydd yn cael ei gynnal dros dair awr bob bore Gwener (9am-12pm).
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n newydd i arddio neu a hoffai ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymarferol presennol.
Gyda ffocws cryf ar arddio tymhorol, byddi di’n dysgu am gynaeafu cnydau, casglu a storio hadau, plannu bylbiau’r gwanwyn, paratoi pridd a gwneud compost. Byddwn ni hefyd yn plannu coed, llwyni a blodau lluosflwydd, gwahanu planhigion sefydledig, cymryd toriadau, tocio a gwarchod planhigion drwy’r gaeaf.
Bydd y cwrs hefyd yn cyflwyno ffyrdd o annog bywyd gwyllt i dy ardd, cadw pridd yn iach a blaengynllunio ar gyfer gardd gynhyrchiol a deniadol yn y tymhorau i ddod.
Gan gyfuno gweithgareddau ymarferol â gwybodaeth hanfodol o arddwriaeth, mae’r cwrs cyfeillgar hwn yn gyfle delfrydol i ddysgu, magu hyder a mwynhau garddio mewn amgylchedd cefnogol.
P’un a oes gennyt ardd, rhandir, patio neu ychydig o botiau yn unig, byddi di’n dysgu sgiliau defnyddiol, cwrdd â chyd-selogion garddio a mwynhau bod yn yr awyr agored.
📍 Hwb Gwyrdd, Campws Tycoch
Gwybodaeth allweddol
Dim gofynion mynediad.