Gwasanaethau Cyfreithiol CILEX Lefel 5 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae'r Brentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 5 yn addas ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y sector cyfreithiol ac yn dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau proffesiynol trwy astudio cwrs rhan-amser, gan gymhwyso fel Paragyfreithiwr Uwch CILEX.
Bydd prentisiaid yn ennill y wybodaeth gyfreithiol uwch, sgiliau ymarferol a’r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i ddod yn baragyfreithiwr llwyddiannus, a byddant yn cael cyfle i gymhwyso’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu yn uniongyrchol yn y gweithle. Mae'r brentisiaeth hon yn rhaglen ymarferol iawn, lle mae pethau fel rheoli pwysau, cyfathrebu yn effeithiol a meddu ar lygad am fanylder yn allweddol i lwyddiant.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, bydd dysgwyr yn gymwys i ymgeisio am amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys:
- Uwch Paragyfreithiwr
- Paragyfreithiwr Profiadol
- Enillydd Ffioedd Dan Hyfforddiant
- Cynorthwyydd Cyfreithiol
- Ymgynghorydd Cyfreithiol
- Ymdriniwr achosion.
Mae'r brentisiaeth Lefel 5 yn addas ar gyfer aelodau newydd a phresennol o'r tîm sy’n meddu ar gymhwyster Lefel 3; ac mae ar gael o fis Medi 2026.
Gwybodaeth allweddol
Er mwyn astudio’r Brentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 5, bydd angen i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster Prentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 3.
I fod yn gymwys i dderbyn cyllid i astudio’r cwrs, rhaid i chi fod yn gyflogedig am fwy na 16 awr yr wythnos yng Nghymru. Rhaid i ddysgwyr hefyd gael eu cefnogi'n llawn gan y cyflogwr, os nad ydych yn cael eich cyflogi ar hyn o bryd mewn rôl berthnasol, efallai y bydd y coleg yn gallu rhoi cyngor i chi o ran chwilio am waith.
Gall ymgeiswyr gwblhau’r cwrs os nad ydynt yn gweithio ond bydd gofyn iddynt ddod o hyd i gyllid eu hunain. Y cymhwyster y bydd dysgwyr yn cwblhau heb y profiad cyflogaeth/proffesiynol angenrheidiol fyddai Diploma CILEX Lefel 5 yn y Gyfraith.
Os nad yw dysgwyr wedi cyflawni graddau TGAU A-C (neu gyfwerth), bydd angen iddynt hefyd gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.
Mae'r brentisiaeth hon yn cael ei chyflwyno wyneb yn wyneb yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.
Bydd dysgwyr yn astudio pum modiwl dros ddwy flwyddyn academaidd, sy'n cyfateb i ddau fodiwl bob semester (ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymarfer proffesiynol).
Modiwlau’r cwrs:
- Datrys Anghydfodau
- Cyfraith ac Ymarfer Troseddol
- Eiddo a Thrawsgludo
- Sgiliau Proffesiynol a Chyfreithiol Uwch
- Teulu/Ewyllysiau/Busnes a Chyflogaeth (modiwlau dewisol).
Gall dysgwyr barhau i weithio fel paragyfreithiwr neu symud ymlaen i astudio cymhwyster Proffesiynol CPQ Cyfreithiwr CILEX (Lefel 6), gan gymhwyso fel Cyfreithiwr CILEX ac arbenigo mewn maes penodol o'r Gyfraith.
Neu gall dysgwyr ddewis symud ymlaen o gymhwyster Lefel 5 i radd yn y Gyfraith, cyn symud ymlaen at sicrhau cymhwyster fel cyfreithiwr drwy'r llwybr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr SQE (yn amodol ar fodloni'r gofynion cymhwyster perthnasol).