Skip to main content

CILEX Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 3

Rhan-amser, Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
Cilex
Sketty Hall
Dwy flynedd (35 wythnos y flwyddyn)

Trosolwg

Mae Diploma CILEX yn y Gyfraith yn datblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r arbenigedd proffesiynol sydd eu hangen i weithio tuag at fod yn baragyfreithiwr/cynorthwyydd cyfreithiol proffesiynol, rôl sy’n chwarae swyddogaeth hollbwysig yn y sector cyfreithiol.

O fewn Cymhwyster Proffesiynol sylfaen CILEX, byddwch yn dysgu sgiliau proffesiynol craidd fel ymwybyddiaeth fasnachol, moeseg broffesiynol a chyfathrebu. Mae’n cyflwyno gwybodaeth gyfreithiol hanfodol o fewn systemau Cyfreithiol, Contract, Camwedd ac Eiddo gan roi modd i ddarpar baragyfreithwyr a chynorthwywyr cyfreithiol ddarparu cymorth ac arweiniad i dimau sy’n gweithredu mewn amrywiaeth o feysydd ymarfer cyfreithiol.

Mae’r cwrs sylfaen Lefel 3 yn addas i aelodau tîm newydd a phresennol o fewn y sector cyfreithiol.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn rhan-amser ac fel prentisiaeth.

Gwybodaeth allweddol

Os nad yw dysgwyr wedi cyflawni graddau A-C ar lefel TGAU (neu’r cyfwerth), rhaid iddynt hefyd gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid eich bod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac yn gweithio yng Nghymru. Yn ogystal, rhaid i’r dysgwyr gael eu cefnogi’n llawn gan y cyflogwr.

Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

Bydd dysgwyr yn astudio pum modiwl (yn ogystal ag un e-fodiwl):

  • Systemau Cyfreithiol
  • Cyfraith Camwedd
  • Cyfraith Contractau
  • Cyflwyniad i Eiddo a Chleientiaid Preifat
  • Sgiliau Proffesiynol a Chyfreithiol
  • Moeseg a Chyfrifoldeb Proffesiynol 1 (e-fodiwl).

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ar gael ar gyfer paragyfreithwyr, gyda rolau nodweddiadol yn cynnwys:

  • Paragyfreithiwr
  • Cynorthwyydd Cyfreithiol
  • Swyddog Gweinyddol Cyfreithiol
  • Ysgrifennydd Cyfreithiol
  • Enillydd Ffioedd/Triniwr Achosion Iau.

Gall dysgwyr barhau i weithio fel paragyfreithiwr, neu symud ymlaen i brentisiaeth uwch Lefel 5 mewn Paragyfreithiwr Uwch.
 

Off